Campws y Bae
Dr Gary Burkhardt

Dr Gary Burkhardt

Darlithydd - Gweithrediadau Strategol a Dadansoddeg

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602341

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
321
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Gary'n gyn ymarferydd diwydiannol a bellach mae'n ysgolhaig amlddisgyblaethol yn y grŵp Gweithrediadau a Dadansoddiadau Strategol yn yr Ysgol Reolaeth. Gwnaeth raddio o Brifysgol Rhydychen (Mathemateg)  cyn cwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe ar y pwnc cydsyniad ar-lein ar gyfer prosesu data personol. Mae ganddo MSc mewn Cyfrifiadureg, Diploma Graddedig yn y Gyfraith a Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer y Gyfraith.

Mae gan Gary dros 20 mlynedd o brofiad arloesol yn y diwydiant telegyfathrebu, ar ôl cael swyddi technegol a strategol amrywiol ar draws amrywiaeth o rolau mewn gwasanaethau mewn cwmnïau amlwladol mawr megis Vodafone a Siemens.

Mae ei ddiddordebau ymchwil, sy'n defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol, yn adeiladu ar ei arbenigedd fel ymarferydd a'i gefndir amlddisgyblaethol, ac yn canolbwyntio ar barthau deallusrwydd artiffisial, ymddygiad dynol, preifatrwydd ar-lein, moeseg data a systemau cyfreithiol.

Meysydd Arbenigedd

  • Preifatrwydd Ar-lein
  • Prosesu Data Personol
  • Deallusrwydd Artiffisial
  • Dysgu Peirianyddol
  • Cyfathrebu Digidol
  • Cloddio Data
  • Moeseg Data

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Mathemateg ac Ystadegau
  • Dadansoddi Data
  • Dadansoddi Penderfyniadau
  • Ymddygiad Defnyddwyr
  • Marchnata Strategol
  • Rheoli Gwasanaethau TG
Ymchwil Prif Wobrau