Trosolwg
Astudiodd Graham Gefnforeg a Daearyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ac mae ef bellach yn fentor, yn diwtor ac yn uwch-ddarlithydd rhan amser ym Mhrifysgol Abertawe. Fe dreuliodd 35 mlynedd o’i yrfa cyn hynny yn gweithio ym maes peirianneg a gwyddoniaeth ryngwladol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Ar hyn o bryd mae e’n gweithredu fel Cyfarwyddwr Anweithredol dros fenter tai cymdeithasol yng Nghymru.