bay campus image
Dr Catherine Groves

Dr Catherine Groves

Uwch-ddarlithydd mewn Marchnata

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
210
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Catherine yn Seicolegydd Galwedigaethol Siartredig ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae hi’n defnyddio ei phrofiad o reoli gweithredol dros 20 mlynedd i gefnogi ei gwaith academaidd. Mae'n parhau i ymwneud â chefnogi a chynghori ar waith nifer o fentrau cymdeithasol ac elusennau yn lleol. Ei phrif feysydd o ddiddordeb ac ymchwil yw dysgu gweithredu, rheolaeth feirniadol, menter gymdeithasol a phob agwedd ar seicoleg. Fel hyfforddwr profiadol, mae Catherine yn arbennig o weithgar ym maes arweinyddiaeth a datblygu tîm, gan wneud defnydd arloesol o dechnoleg rithwir i ddatblygu a gwella cymhwysedd arweinyddiaeth ar gyfer myfyrwyr lefel M. Mae hi hefyd yn seicometregydd profiadol iawn.

A chanddi brofiad personol o entrepreneuriaeth, mae diddordebau ymchwil Catherine yn cynnwys harneisio seicometreg, beirniadaeth a rhith realiti ar gyfer datblygu arweinyddiaeth a chyflogadwyedd mewn myfyrwyr, rôl proffilio seicolegol wrth gefnogi a datblygu entrepreneuriaid, a gwella amrywiaeth mewn addysg ffrwd waith peirianneg.

Mae Catherine yn arwain modiwlau ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir, ac yn goruchwylio nifer o fyfywyr PhD a DBA.

Meysydd Arbenigedd

  • Seicoleg alwedigaethol
  • BBaChau
  • Entrepreneuriaeth
  • Seicometreg
  • Hyfforddiant gweithredol
  • Hyfforddi
  • Datblygu tîm
  • Myfyrdod beirniadol
  • Dysgu gweithredol