
Mae’r Sefydliad Diwylliannol, mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian, yn falch o gyflwyno arddangosfa Peter Matthews, sef Grounded. Mae'r arddangosfa ar hyn o bryd yn Oriel Gelf Glynn Vivian ond, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, gallwch chi bellach ei gweld a symud drwyddi hi’n rhithwir.
- Ewch i weld yr arddangosfa ar-lein: https://www.glynnvivian.co.uk/whats-on/peter-matthews-grounded/?lang=cy
- Ewch ar daith rithwir o'r arddangosfa yma: www.glynnvivian.co.uk/visit/take-a-virtual-tour/
- Mae Peter Matthews hefyd wedi paratoi ffilm ar gyfer yr arddangosfa hon y gallwch chi’i gwylio ar sianel YouTube yr oriel: www.youtube.com/watch?v=STZGG7q2mcM
'Periwinkle' - Peter Matthews
.jpg)
Delweddau: © Peter Matthews, Grounded, 2020. Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
Ffotograffiaeth: Polly Thomas
Cefndir yr arddangosfa
Ym mis Tachwedd 2019 lansiodd y Sefydliad Diwylliannol y Cymrodoriaethau Creadigrwydd agoriadol gyda’r bwriad o roi’r cyfle i artistiaid mewn unrhyw ddisgyblaeth greu gwaith newydd a ysbrydolwyd gan ddarn o ymchwil academaidd. Yr artist a ddewiswyd yn Gymrawd Creadigol cyntaf y Sefydliad Diwylliannol oedd Peter Matthews, arlunydd y mae ei waith a'i fethodoleg ryfeddol yn hynod o berthnasol i ddiddordebau a phryderon astudiaeth y biolegydd morol Dr Ruth Callaway o gyd-destunau amgylcheddol arfordirol.
Roedd Peter Matthews a Dr Ruth Callaway, arlunydd a gwyddonydd, ill dau wedi treulio blynyddoedd yn ymdrwytho mewn tirweddau arfordirol, gan arsylwi arnyn nhw, meithrin profiad ohonyn nhw a myfyrio yn eu cylch. Beth allai ddigwydd pe bai eu priod ffyrdd o ddadansoddi yn cael eu dwyn ynghyd? Sut gallai gweledigaeth arlunydd effeithio ar safbwyntiau gwyddonydd, a sut gallai gwybodaeth gwyddonydd newid arferion arlunydd?
Dim ond rhai o'r cwestiynau a ystyriwyd yn y Gymrodoriaeth Creadigrwydd hon oedd y rhain. Yr hyn na allai’r un ohonon ni fod wedi gwybod amdano oedd y byddai trydydd cyfrannwr yn ymuno â'r prosiect cydweithredol ar ffurf Covid-19 a'r holl oblygiadau yn sgîl hynny. Yn hynny o beth, mae'r arddangosfa hon yn gymaint o ymateb creadigol i'r amser cythryblus hwnnw sy’n ysgogi’r meddwl ac a ddaeth i ran pob un ohonon ni ag y mae i nodweddion, graddliwiau a hanfod Bae Abertawe.
Y Broses
Cyflwynodd Dr Callaway Matthews i amrediad enfawr y llanw ym Mae Abertawe - sy'n datgelu rhannau helaeth o lawr y môr am ychydig oriau bob dydd – yn ogystal â'i hangerdd a'i hymchwil fanwl i fwydod sy'n byw yno ac sy’n ffurfio creigresi. Y drafodaeth a'r cydweithredu hwn oedd man cychwyn y gwaith newydd.
Ffordd arferol o weithio Matthews yw ymdrochi yn y môr gyda phapur ynghlwm wrth fwrdd lluniadu pren a wnaeth yr arlunydd ei hun. Ymhlith ei ddeunyddiau y mae ysgrifbinnau diddos ond hefyd ddeunydd y môr ei hun. Mae'r weithred berfformiadol a myfyriol hon yn golygu oriau lawer (neu ddyddiau hyd yn oed) yn gweithio ar ei ben ei hun yn y môr, yn symud gyda'r môr, yn darlunio ac yn paentio.
Dyma a ddywedodd Dr Callaway am y prosiect cydweithredu, “Gwnaeth gweithio gyda Peter Matthews yn ystod ei gymrodoriaeth fy ngorfodi i gymryd cam yn ôl ac edrych ar fy ngwaith o gyfeiriad gwahanol. Yn sgîl hyn, des i i ganolbwyntio llawer mwy ar ei ddiben, ei raddfa a hefyd ei berthnasedd cymdeithasol.”
Mae’r darnau newydd o waith yn yr arddangosfa yn arwydd o ddatblygiad a chyfeiriad newydd amlwg a diamheuol yng ngwaith Matthews. Wrth gwrs, mae'r pandemig byd-eang wedi newid cwrs y gymrodoriaeth hon. Fel y dywed Matthews, “Effeithiwyd yn ddwfn ar fy synhwyrau o ran graddfa, pellter, amser a gofod yn ystod y pandemig a thrwy gydol y gymrodoriaeth, yn ogystal â fy nghysylltiad corfforol â gwrthrychau a phethau, yn enwedig y ffordd rydyn ni’n gwneud synnwyr o’r byd drwy’r broses o gyffwrdd.”
Gan weithio ym Mae Abertawe a’r cyffiniau yn ogystal ag ar hyd arfordir yr Iwerydd yng Nghernyw, mae'r darnau newydd o waith y gallwch chi’u gweld bellach ar-lein yn cynnwys cerfluniau a darnau o waith ar bapur yn ogystal â ffilmiau a phaentiadau. Mae darnau cerfluniol hefyd wedi’u claddu o dan Fae Abertawe, yn barod i’w cloddio a’u harddangos yn Atriwm yr oriel, ac mae gwaith wedi’i wneud yn uniongyrchol o glai Bae Abertawe.
Cefnogwyd yr arddangosfa gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Cyngor Crefftau a Sefydliad Pollock Krasner a bydd ar gael i'w gweld ar-lein tan ddydd Sul 28 Mawrth 2021.