Ymrwymiad y Brifysgol i'r Gymraeg

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o fod yn brifysgol ddwyieithog. Golyga hyn fod croeso i chi ddefnyddio'ch Cymraeg wrth ddod i gysylltiad â'r Brifysgol.

Rydym wedi ymrwymo i Safonau'r Gymraeg a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2018, gan ddisodli ein Cynllun Iaith Gymraeg gynt fel y ddogfen sy'n amlinellu pa wasanaethau a fydd yn cael eu darparu trwy gyfrwng y Gymraeg a sut y bydd y Brifysgol yn ystyried yn llawn faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau polisi neu strategaeth.

Academi Hywel Teifi yw pwerdy'r Gymraeg yn y Brifysgol, ac yn gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio elefennau o'u cyrsiau yn y Gymraeg. Dyma hefyd gartref canolfan Dysgu Cymraeg Bae Abertawe, ac adran y Gymraeg.

Mae Swyddfa Polisi'r Gymraeg yn gyfrifol am sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â'r gyfraith o safbwynt y Gymraeg a dyma'r pwynt cyswllt cyntaf â Chomisiynydd y Gymraeg.