Meysydd Pwnc Amrywiol: Grant Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig o Gymru
Dyddiad cau: 31 Mai 2023
Gwybodaeth Allweddol
Mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cefnogi llawer o fyfyrwyr ôl-raddedig o Gymru bob blwyddyn i astudio am raddau Meistr neu PhD. Ar hyn o bryd, mae grantiau ar gael i dalu ffioedd dysgu, hyd at £5,000 ym mhob achos.
Cymhwyster
Caiff pob maes pwnc ei ystyried ond, i fod yn gymwys, rhaid i fyfyrwyr fodloni'r meini prawf cymhwyso. Ewch i wefan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am ragor o fanylion.
Cyllid
Mae pob grant yn talu hyd at uchafswm o £5,000 at ffioedd dysgu.
Sut i wneud cais
Ewch i wefan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am fanylion cymhwyso llawn a'r ffurflen gais.