Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Rhaglenni Ymchwil
  4. Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Feddygaeth
  5. Gwyddoniaeth Ddadansoddol Gymhwysol (LCMS), M.Res.
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Rhaglenni Ymchwil
  4. Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Feddygaeth
  5. Gwyddoniaeth Ddadansoddol Gymhwysol (LCMS), M.Res.

Gwyddoniaeth Ddadansoddol Gymhwysol (LCMS), M.Res.

Tudalennau cysylltiedig
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Rhaglenni Ymchwil
    • Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig sydd ar y gweill
    • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
    • Cyrsiau Ymchwil Ol-Raddedig yr Ysgol Peirianneg Awyrfod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-Raddedig Ysgol Y Biowyddorau, Daearyddiaeth A Ffiseg
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Ymchwil Ol-Raddedig yr Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-Raddedig Ysgol Y Ysgol Mathemateg A Chyfrifiadureg
    • Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau ymchwil Ôl-raddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Cyflwyno Ein Myfyrwyr Ôl-Raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
Ymgeisio

Ydych chi'n Fyfyriwr y DU neu'n Fyfyriwr Rhyngwladol?

Myfyriwr o'r DU Myfyriwr Rhyngwladol
Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
health data

Y 5 uchaf am ansawdd cyffredinol ymchwil (REF2021)

Manylion Allweddol y Cwrs

M.Res. 1 Blynedd Llawn Amser
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Hyd 2023 £ 4,700
M.Res. 2 Flynedd Rhan Amser
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Hyd 2023 £ 2,350
M.Res. 1 Blynedd Llawn Amser
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Hyd 2023 £ 22,550
M.Res. 2 Flynedd Rhan Amser
Lleoliad
Campws Parc Singleton
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Hyd 2023 £ 11,300

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs MRes mewn Gwyddorau Dadansoddol Cymhwysol (LCMS) yn gyfuniad unigryw o gyfranogiad yn y diwydiant a chynnwys cwrs a fydd yn eich galluogi i ennill cymhwyster galwedigaethol-berthnasol ac yn helpu i'ch gwneud yn gyflogadwy iawn yn y DU a thramor.

Mae'r galw byd-eang am sbectrometreg màs a chromatograffaeth wedi cynyddu ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, ac mae graddedigion cymwysedig yn brin ac yn unigolion y mae galw mawr iawn amdanynt. Mae eich cwrs wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion diwydiant a bydd yn trafod pynciau fel hanfodion sbectrometreg màs a gwyddor gwahanu, mesuriadau dadansoddol dilys, ystadegau, dadansoddi data a datblygu dull.

Prifysgol Abertawe yw'r unig sefydliad yn y DU sy'n cynnig cynllun pwrpasol ar gyfer y pynciau hyn, gan fanteisio ar arbenigedd yn y Sefydliad Sbectrometreg Màs (IMS), sydd wedi'i leoli yn yr Ysgol Feddygaeth.

 

Bydd eich rhaglen blwyddyn llawn amser, neu ddwy flynedd rhan amser, yn cynnwys:

 

  • Hyfforddiant helaeth mewn Sefydliad a arweinir gan ymchwil er mwyn gwella sgiliau gwyddor ddadansoddol i'r lefelau proffesiynol sydd eu hangen yn y gweithle
  • Cwrs hynod ymarferol a chyfarpar mewnol helaeth. Byddwch yn dysgu mewn ffordd fanylach a mwy ymarferol na'r rhan fwyaf o raglenni MRes dadansoddol sydd ar gael ar hyn o bryd. Darperir hyfforddiant rheoli prosiect ychwanegol ar gynllunio arbrawf, iechyd a diogelwch a sgiliau labordy er mwyn eich paratoi ar gyfer ymchwil a sicrhau eich bod yn barod ar gyfer gwaith prosiect.
  • Darlithwyr gwadd arbenigol o ddiwydiant. Cyfleoedd unigryw i rwydweithio â darpar gyflogwyr a gwell rhagolygon cyflogadwyedd mewn meysydd hynod fedrus a pherthnasol fel cynhyrchion fferyllol, amaethyddiaeth, bwyd a maeth, diogelwch gwladol, diagnosteg glinigol, gwyddor filfeddygol a fforensig, dadansoddi amgylcheddol, yn ogystal â marchnata a gwerthu, i enwi ond ychydig
  • Asesiadau sy'n hybu sgiliau trosglwyddadwy sy'n hanfodol ar gyfer cyflogaeth. Yn cynnwys astudiaethau achos, taflenni problemau, ymarferion prosesu data a gwybodeg, yn ogystal â'r arholiadau ac aseiniadau seiliedig ar draethodau traddodiadol
  • Dysgu seiliedig ar ymarfer
  • Tîm goruchwylio â goruchwylwyr enwebedig
  • Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach
  • Seminarau a gweithdai'r rhaglen
  • Cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant a byd busnes

 

Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; cyngor ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws ol-raddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur

Gofynion Mynediad

Bydd ceisiadau ar gyfer y cwrs MRes gan ymgeiswyr sy'n chwilio am hyfforddiant helaeth sy'n canolbwyntio ar ymchwil ym maes LCMS.

Fel arfer, dylai ymgeiswyr feddu ar radd 2:1 o leiaf mewn pwnc gwyddoniaeth perthnasol.

Bydd ymgeiswyr sydd am ddilyn y cwrs MRes fel parhad o'u hastudiaethau drwy drosglwyddo neu uwchraddio o'r Diploma Ôl-raddedig mewn Gwyddor Ddadansoddol Gymhwysol (LCMS) fel arfer yn cael eu derbyn i gofrestru yn y flwyddyn academaidd ganlynol yn unig.

Bydd ceisiadau'n cynnwys dau eirda gan academyddion yn y maes o ddiddordeb i gadarnhau gallu ymarferol ac academaidd.

Gofyniad iaith Saesneg: Sgôr IELTS gyffredinol o 6.5 neu gymhwyster cyfatebol a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

Fel arfer, byddai disgwyl i'r rhai sy'n gwneud cais am le ar y rhaglen hon fodloni'r gofynion mynediad a nodir uchod. Ceidw'r Coleg/Ysgol yr hawl i ofyn am raddau a chymwysterau academaidd uwch. Mae penderfyniadau ynghylch derbyn myfyrwyr yn ystyried nid yn unig gymwysterau academaidd blaenorol, ond hefyd ffactorau sy'n cynnwys safon crynodeb yr ymchwil/y cynnig a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, ei berfformiad yn y cyfweliad (os oes angen), pa mor ffyrnig yw'r gystadleuaeth am nifer gyfyngedig o leoedd a phrofiad proffesiynol perthnasol (pan fydd yn briodol).

Yn ogystal â chymwysterau academaidd, gellir seilio penderfyniadau ynghylch derbyn myfyrwyr ar ffactorau eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: safon y crynodeb/cynnig ymchwil, perfformiad yn ystod y cyfweliad, lefel y gystadleuaeth am leoedd cyfyngedig a phrofiad proffesiynol perthnasol.

Angen Tystysgrif y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS)

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr o’r tu allan i’r DU/yr UE gael cymeradwyaeth ATAS am y rhaglen astudio hon. Bydd tîm Derbyn Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol yn anfon manylion am sut i wneud cais ATAS at ymgeiswyr llwyddiannus. Gellir gweld manylion pellach am gynllun ATAS ar dudalen we Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd y Llywodraeth.

Gofyniad am eirda

Yn arferol, gofynnir am ddau eirda cyn y gallwn anfon ceisiadau i Diwtor Derbyn rhaglenni ymchwil y Coleg/Ysgol i'w hystyried.

Caiff ceisiadau a dderbynnir heb ddau eirda wedi'u hatodi atynt eu gohirio nes y derbynnir y geirda sy'n weddill. Sylwer y gall oedi hir wrth dderbyn y geirda sy'n weddill arwain at ohirio'ch cais tan ddyddiad cychwyn/mis derbyn posib diweddarach, o'i gymharu â'r dyddiad y rhestroch yn gychwynnol fel y dyddiad dechrau o'ch dewis.

Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â'ch canolwr (canolwyr) i'n cynorthwyo wrth dderbyn y geirda sy'n weddill neu, fel arall, gallwch ohirio cyflwyno'ch cais nes eich bod wedi dod o hyd i'ch geirda. Sylwer nad cyfrifoldeb Swyddfa Derbyn y Brifysgol yw dod o hyd i'r geirda sy'n weddill ar ôl i ni anfon e-bost cychwynnol at y canolwyr (canolwyr) a enwebwyd gennych, gan ofyn am eirda ar eich rhan chi.

Gall y geirda hwn fod ar ffurf llythyr ar bapur pennawd swyddogol neu gellir ei gyflwyno ar ffurflen geirda safonol y Brifysgol. Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho ffurflen geirda'r Brifysgol.

Fel arall, gall canolwyr anfon geirda mewn e-bost o'u cyfrif e-bost gwaith. Sylwer na ellir derbyn geirda a anfonir oddi wrth gyfrifon e-bost preifat, (h.y. Hotmail, Yahoo, Gmail).

Gellir cyflwyno geirda i pgradmissions@abertawe.ac.uk.

Sut rydych chi'n cael eich goruchwylio

Rhoddir tîm goruchwylio i chi a fydd yn cynnwys prif oruchwyliwr a goruchwylwyr eilaidd. Bydd y tîm yn rhoi cymorth academaidd a bugeiliol i chi tra byddwch yn cwblhau eich ymchwil.

Darpariaeth Gymraeg

Ffioedd Dysgu

M.Res. 1 Blynedd Llawn Amser

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Hydref 2022 £ 4,596 £ 21,900
Hydref 2023 £ 4,700 £ 22,550

M.Res. 2 Flynedd Rhan Amser

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Hydref 2022 £ 2,298 £ 10,950
Hydref 2023 £ 2,350 £ 11,300

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Noder: Mae ffi 2023/2024 y DU yn ddangosol hyd nes y ceir cadarnhad gan UKRI.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Mae arian gan y llywodraeth bellach ar gael ar gyfer myfyrwyr o Gymru, Lloegr a'r UE sy'n dechrau ar raglenni ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais yn Saesneg ar-lein a dilyn statws eich cais gan ddefnyddio ein System On Track.  Neu, rydym yn croesawu ceisiadau Cymraeg drwy'r post neu e-bost:

Lawrlwythwch becyn cais

Fe'ch cynghorir i gysylltu â ni cyn cyflwyno'ch cais. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn gallu nodi goruchwylwyr priodol, a lle bo angen, gweithio gyda chi i fireinio'ch cynnig. Os hoffech wneud hyn dylech gysylltu â pgr-medicinehealthlifescience@swansea.ac.uk

 

Amseroedd Arfaethedig ar gyfer Cyflwyno Cais

Er mwyn caniatáu digon o amser i'ch cais gael ei ystyried gan academydd, ac i ganiatáu i amodau cynnig posib megis teithio/adleoli gael eu bodloni, argymhellwn eich bod yn cyflwyno cais cyn y dyddiadau a nodir isod. Sylwer y gellir cyflwyno ceisiadau y tu allan i'r dyddiadau a awgrymir isod o hyd, ond mae'n bosib y gall fod angen gohirio'ch cais/eich cynnig posib i'r dyddiad derbyn priodol nesaf.

Cofrestru ym mis Hydref

Ymgeiswyr o'r DU – 15 Awst

Ymgeiswyr o'r UE/ymgeiswyr rhyngwladol – 15 Gorffennaf

Cofrestru ym mis Ionawr

Ymgeiswyr o'r DU – 15 Tachwedd

Ymgeiswyr o'r UE/ymgeiswyr rhyngwladol – 15 Hydref

Cofrestru ym mis Ebrill

Ymgeiswyr o’r Deyrnas Unedig – 15 Chwefror

Ymgeiswyr o'r UE/ymgeiswyr rhyngwladol – 15 Ionawr

Cofrestru ym mis Gorffennaf

Ymgeiswyr o'r DU – 15 Mai

Ymgeiswyr o'r UE/ymgeiswyr rhyngwladol – 15 Ebrill

  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Rhaglenni Ymchwil
    • Rhaglenni Ymchwil Ôl-raddedig sydd ar y gweill
    • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
    • Cyrsiau Ymchwil Ol-Raddedig yr Ysgol Peirianneg Awyrfod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-Raddedig Ysgol Y Biowyddorau, Daearyddiaeth A Ffiseg
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Ymchwil Ol-Raddedig yr Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-Raddedig Ysgol Y Ysgol Mathemateg A Chyfrifiadureg
    • Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau ymchwil Ôl-raddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Cyflwyno Ein Myfyrwyr Ôl-Raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
Ymgeisio Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342