Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs MD mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd yn seiliedig ar bedair thema allweddol: Biofarcwyr a Genynnau; Dyfeisiau; Microbau ac Imiwnedd; Iechyd a Gwybodeg Cleifion a'r Boblogaeth. Mae ein rhaglen yn addas i ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'r pynciau hyn ac sydd am weithio ar broblemau meddygol cymhleth sydd ag effeithiau biolegol a chymdeithasol.
Hefyd, mae gennym gysylltiadau cryf â'r GIG ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â diddordeb ymchwil glinigol mewn:
- Damweiniau
- Heneiddio
- Triniaeth ddydd
- Llosgiadau a phlastigau
- Canser
- Clefyd cardiofasgwlaidd
- Diabetes
- Epilepsi
- Gastroenteroleg
- Ysbyty gartref
- Clefydau heintus
- Gofal cyn ysbyty
- Seiciatreg
- Rhiwmatoleg
- Llawdriniaeth oherwydd trawma
Bydd eich rhaglen dwy flynedd llawn amser, neu bedair blynedd rhan amser, yn cynnwys:
- Dysgu seiliedig ar ymarfer
- Tîm goruchwylio â goruchwylwyr enwebedig
- Byddwch yn cael budd o sgiliau'r gymuned academaidd ehangach
- Seminarau a gweithdai'r rhaglen
- Mynediad i'r prif gyfleuster ymchwil feddygol bwrpasol yng Nghymru
- Cydweithio â phartneriaid mewn diwydiant a byd busnes
Yn ystod eich cwrs, byddwch yn cael budd o'n cyfleusterau arbenigol uchel eu parch a'n rhaglenni ymchwil sy'n sgorio'n uchel. Cangen ymchwil ac arloesedd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe yw'r Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS). Y weledigaeth ar gyfer ILS yw datblygu gwyddor feddygol drwy ymchwil ac arloesedd rhyngddisgyblaethol er mwyn gwella iechyd, cyfoeth a llesiant pobl Cymru a thu hwnt.
- Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn ganolfan ymchwil feddygol flaenllaw yn y DU
- Cyntaf yn y DU am Amgylchedd Ymchwil
- Ail yn y DU am Ansawdd Ymchwil
- 100% o'r radd flaenaf neu'n rhyngwladol ardderchog o ran effaith (REF 2014)
- Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu defnyddio cyfleusterau'r Sefydliad Gwyddor Bywyd (ILS) gwerth £100 miliwn)
- Academyddion yn cyflawni ymchwil o'r radd flaenaf
- Enghraifft unigryw o gydweithio llwyddiannus rhwng y GIG, academia a diwydiant yn y sector gwyddor bywyd ac iechyd
- Cysylltiadau agos â Cholegau Peirianneg a Gwyddoniaeth, yn enwedig drwy'r Ganolfan NanoIechyd
Mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o bartneriaid a chydweithwyr allanol, gan gynnwys y GIG; Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Bwrdd Iechyd Hywel Dda; cyngor ymchwil y DU; Llywodraeth Cymru a sawl cysylltiad cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd y cysylltiadau hyn, ynghyd â'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu meithrin yn ystod eich gradd ymchwil yn cyfoethogi eich CV ac yn eich helpu i sefyll allan mewn marchnad gyflogaeth gystadleuol iawn i raddedigion.