Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r ddoethuriaeth broffesiynol hon mewn addysg (EdD) yn rhoi’r cyfle i’r ymgeiswyr ymdrin â materion addysg mewn ffordd broffesiynol a beirniadol gan astudio ar lefel ddoethurol.
luniwyd y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg ar gyfer y rheiny sy’n dymuno astudio addysg ar lefel ddoethurol yn rhan-amser. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr EdD mewn cyflogaeth amser llawn a bydd llawer ohonyn nhw’n athrawon neu’n uwch-arweinwyr mewn ysgolion, ond bydd y radd hefyd yn apelio at y rheiny sy’n gweithio ym maes addysg yn ehangach – er enghraifft, mewn awdurdodau lleol neu sefydliadau trydydd sector.
Rhennir y rhaglen yn ddau gam: cam a addysgir sy’n cynnwys pedwar modiwl a cham ymchwil pan fydd y myfyrwyr yn ysgrifennu traethawd doethurol.
Bydd y modiwlau a addysgir yn cael eu cynnal ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Gorffennaf bob blwyddyn a bydd y myfyrwyr yn dilyn un modiwl y flwyddyn. Ar ôl i’r myfyrwyr gwblhau’r pedwar modiwl yn llwyddiannus, byddan nhw’n symud ymlaen i’r cam ymchwil pan fyddan nhw’n gwneud ymchwil wreiddiol a fydd yn cael ei chyflwyno a’i hamddiffyn mewn arholiad llafar, fel yn achos rhaglenni doethurol eraill.
Ymchwil fydd yn arwain yr EdD yn Abertawe a chefnogir yr ymchwil honno gan academyddion o fri rhyngwladol o ran rhagoriaeth.