Mae'r gost o fyw yn Abertawe'n gymharol isel o'i gymharu a nifer o ddinasoedd eraill yn y DU. Fodd bynnag mae hi dal i fod yn hanfodol bod unrhyw ddarpar fyfyrwyr yn paratoi eu cyllid cyn iddynt ddechrau yn y Brifysgol.
Ar gyfartaledd bydd myfyrwyr sy'n astudio yn Abertawe'n gwario rhwng £7,000 a £11,000 (dros 52 wythnos) ar gostau byw. Mae'r enghreifftiau isod wedi'u nodi fel cyfartaledd i roi costau rhywle yng nghanol yr amcangyfrif hwn.
Mae lefel y costau hyn yn dibynnu'n fawr ar eich ffordd o fyw a byddant yn amrywio o berson i berson, ond mae bob amwer yn syniad da llunio cyllideb - ac i gadw iddi!
Mae'n bosib y bydd myfyrwyr ôl-raddedig hefyd am ymgymryd â Theithiau Maes a chynadleddau fel rhan o'u hastudiaethau. Mae'r costau hyn yn gallu amrywio'n fawr yn dibynnu ar ble yr ydych am fynd ac am ba hyd. Gwiriwch gyda'ch adran i weld os gallant helpu drwy gyfrannu at y costau hyn o gwbl.
Yn dibynnu ar eich cwrs mae yna nifer o gostau gorfodol ac opsiynol y mae'n bosib y bydd angen i chi eu talu. Am restr fanwl o gostau penodol yn ymwneud â'ch cwrs cysylltwch â'ch adran.
Wrth lunio eich cyllideb cofiwch y bydd angen talu ffioedd dysgu hefyd, a bod angen ystyried y rhain fel cost. I gael gwybod faint y bydd eich cwrs yn ei gostio, gweler y dudalen ffioedd dysgu.
Maen nhw'n seiliedig ar gostau gwirioneddol a dalwyd gan fyfyrwyr a gellir eu lleihau'n hawdd drwy gyllido'n ofalus. Mae'n bosib na fydd rhai o'r costau hyn yn berthnasol i chi ac, yn dibynnu ar eich amglychiadau, efallai nad ydynt yn adlewyrchu'r gost wirioneddol y byddwch yn ei thalu.