Trosolwg o'r Cwrs
Oherwydd galw mawr, nid ydym mwyach yn derbyn ceisiadau rhyngwladol newydd ar gyfer mynediad i’r rhaglen hon ym mis Medi 2022.
Ydych chi’n chwilio am radd sy'n caniatáu i chi ddatblygu sgiliau mewn sawl agwedd ar reoli busnes? Efallai fod gennych ddiddordeb mewn marchnata a rheoli rhyngwladol neu ddechrau'ch cwmni eich hun. Neu efallai yr hoffech ddatblygu dealltwriaeth gadarn o gadwyni cyflenwi byd-eang yn ogystal â dadansoddeg busnes?
Mae'r rhaglen MSc Rheoli ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi'r rhyddid i chi wneud hynny. Mae’r rhaglen ar gael ar ffurf rhaglen gyffredinol sy’n rhoi’r rhyddid i chi ddewis o ystod o fodiwlau dewisol yn eich ail semester neu fodiwlau â llwybrau penodedig sy’n eich galluogi i arbenigo mewn agwedd benodol ar fusnes (a bydd hyn yn ymddangos ar eich tystysgrif gradd derfynol.
Cynlluniwyd y rhaglen i roi pwyslais pendant ar reoli mewn cymuned fyd-eang gysylltiedig. Mae'n ymdrin â chysyniadau rheoli craidd, megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig ac i wella'ch cyflogadwyedd.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y DU a sefydlwyd yn unswydd i hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain, ac mae ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli.
Gwyddom ein bod yn byw mewn byd cystadleuol. I'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau ac achub y blaen ar eich cystadleuwyr, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl sgiliau academaidd sy’n ymdrin â materion megis dulliau ymchwil.