Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.
Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:
- Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
- Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
- Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
- Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.
Cyflogadwyedd yn Ysgol y Gyfraith
Mae Ysgol y Gyfraith yn gweithredu mewn modd rhagweithiol er mwyn gwella cyflogadwyedd graddedigion, ac mae ganddi Tîm Cyflogadwyedd a Lleoliadau penodedig. Mae'r Ysgol yn cynnig amrywiaeth o leoliadau gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, cyrsiau proffesiynol, cyngor a chymorth i'ch helpu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eich uchelgeisiau.
Mae ein graddedigion yn dod o hyd i swyddi mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd megis:
Gweithiwr Cymorth, Bargyfreithiwr, Clerc i Fargyfreithiwr, Cyfrifydd Siartredig, Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig, Gwas Sifil, Ysgrifennydd Cwmni, Darlithydd, Trawsgludwr Trwyddedig, Gweithiwr Paragyfreithiol, Twrnai Patentau, Yr Heddlu, Ymchwilydd, Cyfreithiwr, Brocer Stoc, Swyddog Safonau Masnach.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwe-dudalen cyflogadwyedd.