Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol gofal iechyd sydd eisoes yn gweithio yn y GIG, neu os ydych chi’n raddedig sydd am weithio mewn lleoliad clinigol, bydd y radd MSc Genomeg hon yn gwella’ch rhagolygon gyrfa.
Mae’r cwrs hwn yn seiliedig ar gwricwlwm Addysg Iechyd Lloegr, GIG Lloegr a Genomics England LTD, a bydd yn rhoi’r canlynol i chi; gwybodaeth a sgiliau i ddeall a dehongli data genomig; dealltwriaeth o dechnegau genetig a genomig mewn lleoliad clinigol, dulliau biowybodeg sy'n angenrheidiol i ddadansoddi data genomig, gwybodaeth a sgiliau uwch, gan baratoi graddedigion i ddatblygu a darparu gofal iechyd gwell.
Ar y rhaglen hon, cewch gyflwyniad i egwyddorion sylfaenol geneteg a genomeg ddynol ynghyd â'r technegau angenrheidiol ar gyfer dilyniannu DNA ac RNA i astudio amrywiad genomeg yr arsylwir arno yn y lleoliad clinigol. Bydd popeth a ddysgwch yn gwella’ch sgiliau cyflogadwyedd, p’un a ydych chi’n gweithio yn y GIG eisoes neu os ydych chi’n fyfyriwr sydd am yrfa mewn lleoliad clinigol.