Trosolwg o'r Cwrs
Bydd myfyrwyr ar y rhaglen hon, sy'n rhoi pobl yn gyntaf, yn cael eu hyfforddi mewn gwyddoniaeth gyfrifiadol gyffrous, gan weithio ar heriau'r byd go iawn a fydd yn trawsnewid cymdeithas a'r economi. Er bod pryderon dilys am yr effaith y gallai data mawr a deallusrwydd artiffisial ei chael ar unigolion, cymunedau swyddi a’r gymdeithas, mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar botensial, anghenion, dyheadau a phryderon unigolion, ac ar sut y gellir defnyddio’r cymelliadau hyn i ysgogi arloesedd. Fel rhan o garfan agos, bydd myfyrwyr yn dysgu dulliau sy'n rhoi pobl yn gyntaf, yn seiliedig ar amrywiaeth eang o safbwyntiau damcaniaethol, arbrofol, meysydd penodol a methodolegol, er mwyn deall sut gall y rhain ehangu a gwella potensial dynol yng nghyd-destun data mawr a deallusrwydd artiffisial.