Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Gwleidyddiaeth yn rhoi hyfforddiant lefel uchel ysgogol i chi yn elfennau craidd astudiaethau gwleidyddol cyfoes, a sail gadarn mewn sgiliau ymchwil a dulliau damcaniaethol o ymdrin â gwleidyddiaeth.
Yna byddwch yn dewis opsiynau sy'n canolbwyntio ar wleidyddiaeth fyd-eang, gymharol a Phrydeinig, yn ogystal â theori ac athroniaeth wleidyddol.
Mae'r radd hon wedi'i chyfoethogi gan y cyfle am leoedd ar leoliad gwaith, gwirfoddoli a phrofiadau gwaith mewn prosiectau ymchwil bach, yn dibynnu ar argaeledd.Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe, elusen Discovery a arweinir gan fyfyrwyr a Swyddfa Cyflogadwyedd y Gyfadran yma i'ch helpu i ddod o hyd i'r lleoliad gwaith cywir i chi.