Trosolwg o'r Cwrs
Mae sefyllfa flaenllaw Prifysgol Abertawe ym maes ymchwil ryngwladol mewn peirianneg gyfrifiadurol o fudd i'r MSc mewn Modelu Cyfrifiadurol ac Elfennau Meidraidd mewn Mecaneg Peirianneg.
Mae'r cwrs hwn yn manteisio ar arbenigedd staff academaidd er mwyn cynnig hyfforddiant ôl-raddedig o'r radd flaenaf i chi.
Mae ein peirianwyr wedi ennill enw da yn rhyngwladol ac yn arloesi wrth ddatblygu technegau rhifyddol megis y dull elfen feidraidd, yn ogystal â gweithdrefnau cyfrifiadurol sy'n helpu i ddatrys problemau peirianneg cymhleth.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth ymarferol o ddulliau modelu cyfrifiadurol, a sut maent yn chwarae rhan hanfodol mewn peirianneg, gwyddoniaeth a meysydd newydd o waith ymchwil rhyngddisgyblaethol.
Mae'r radd MSc hon wedi'i hachredu gan y JBM, ac mae'n cynnig sail gynhwysfawr o ran y dull elfen feidraidd mewn mecaneg peirianneg.