Trosolwg o'r Cwrs
**MAE CEISIADAU AM FYNEDIAD 22/23 AR GYFER Y RHAGLEN HON BELLACH WEDI CAU A BYDDANT YN AILAGOR AR TACHWEDD 2022 AR GYFER MYNEDIAD 23/24**
Caiff yr MSc Mecaneg Gyfrifiadurol ei drefnu gan gonsortiwm yn cynnwys pedair o Brifysgolion mwyaf blaenllaw Ewrop: Prifysgol Abertawe ac Universitat Politècnica de Catalunya (Sbaen)ac ar y cyd â'r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Dulliau Rhifyddol mewn Peirianneg (CIMNE, Sbaen).
Byddwch yn ymgymryd â hyfforddiant amlddisgyblaeth manwl i'ch dysgu i ddefnyddio'r dull elfen feidraidd, yn ogystal â thechnegau rhifyddol a chyfrifiadurol arloesol er mwyn datrys ac efelychu problemau heriol.
Caiff eich gwybodaeth gyffredinol am fecaneg gyfrifiadurol ei datblygu ynghyd â gwerthfawrogiad o ddulliau efelychu cyfrifiadurol mewn diwydiant.
Darperir hyfforddiant hefyd mewn perthynas â datblygu meddalwedd newydd er mwyn efelychu problemau peirianneg cyfredol yn well.