Trosolwg o'r Cwrs
Mae mynediad mis Medi 2023 ar gyfer y rhaglen hon wedi'i atal. Gobeithiwn agor ceisiadau ar gyfer mynediad 2024 ar 1 Hydref 2023.
Mae'r MSc mewn Rheolaeth Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol yn gwrs ar lefel gymhwysol uchel sy'n cynnwys elfennau a addysgir a phrosiect sylweddol i'w gyflawni.
Byddwch yn dysgu i feddwl yn gyflym ac yn hyblyg, gan gymryd camau pendant heb feddu ar wybodaeth gyflawn er mwyn gwella ansawdd bywyd drwy ddatrysiadau peirianyddol.
Mae llawer o'r byd yn parhau i wynebu heriau, o brinder bwyd eithafol i newid yn yr hinsawdd o dan ddylanwad dyn ac achosion o golli bioamrywiaeth na ellir ei hadfer. Mae'r cwrs hwn yn anelu at sicrhau eich bod yn rhan o genhedlaeth newydd o ymarferwyr a all ymdrin â heriau o'r fath drwy ddatrysiadau peirianyddol ymarferol, gan greu cymunedau lleol gwydn a all ymateb i drefoli cyflym.
Cysylltwch â Dr Patricia Xavier am ymholiadau cyffredinol am y cwrs: P.A.Xavier@Swansea.ac.uk