Mae SUSiM yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau addysg sy'n seiliedig ar efelychu i gefnogi dysgwyr a thimau i drochi, myfyrio a datblygu drwy senarios byd go iawn mewn athroniaeth un rhaglen ar amrywiaeth o safleoedd.

 Ein gweledigaeth ar gyfer addysg sy'n seiliedig ar efelychu yw ymgorffori dysgu rhyngbroffesiynol drwy gydol ein cyfres o raglenni clinigol, iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein henw da byd-eang am addysg gofal iechyd yn ein gosod yn y sefyllfa orau i ddatblygu'r enw da hwn ac i gynyddu defnydd o ddulliau addysg ar sail efelychu a throchi yn ein cwricwlwm er budd ein myfyrwyr ac athrawon a datblygu arferion diogelwch cleifion, timau a systemau drwy ddysgu ymarferol.

Yn Dod Cyn Hir

Ein Canolfannau Efelychu a Throchi Newydd a chyfleusterau o bell. Bydd 11 o ystafelloedd efelychu trochi yn cefnogi ystod lawn o raglenni clinigol gydag 8 wedi’u lleoli yn ein Canolfan Ddysgu trwy Efelychu a Throchi ar y Prif Gampws sydd ar fin agor a 3 yn cael eu dylunio a’u hadeiladu ar Gampws Parc Dewi Sant. 

SUSIM yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael offeryn awduro efelychiad IRIS i wella’r safonau a’r cydweithio wrth ddatblygu addysg seiliedig ar efelychiad. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â susim@swansea.ac.uk.

Efelychu ar Waith Ymarfer

Profiad Efelychu
Students in VR

Rydym yn cydweithio yn Abertawe fel ein bod yn dysgu ac yn hyfforddi gyda'n gilydd hefyd. Mae dysgu gweithio gyda'n gilydd mewn ffyrdd hynod effeithiol â chymorth dulliau addysg sy'n seiliedig ar efelychu'n sicrhau bod gennym fyfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyderus a medrus sy'n myfyrio wrth weithredu ac ar eu gweithredu ac yn datblygu ymddygiadau cyfathrebu a thîm agored.

Dengys tystiolaeth gynyddol fod modelau uwch o ddysgu sy'n seiliedig ar efelychu o fudd i'r dysgwr, ac maent yn ein galluogi i ddod â safleoedd, arbenigedd a galwedigaethau gwasgaredig ynghyd i ddatblygu profiad a chanlyniadau addysgol.

Rydym yn defnyddio model cyflwyno "prif ganolfan a lloerennau", gan wella ein mannau dysgu a’n hymagwedd hyblyg ac ystwyth . Bydd ein prif ganolfannau hefyd yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu ymhellach eu sgiliau drwy ddysgu annibynnol sy'n ategu sesiynau addysgu ffurfiol ac yn cefnogi anghenion dysgwyr unigol ar yr un pryd.

Mathau o Efelychu Partneriaid Efelychu ac Ymgysylltu Dysgu Trochi Rhyngbroffesiynol SUSiM Datblygiadau Efelychu

Ymchwil ac Arloesi mewn Efelychu

Ers iddi ddechrau yn 2021, mae rhaglen SUSiM wedi dechrau ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil ac arloesi.

Mae gan dimau a rhaglenni SUSiM genhadaeth gref i sicrhau bod ymagwedd hynod gydweithredol gennym at hyrwyddo ac ehangu dysgu ar sail efelychu ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Gyda'n partneriaid ymchwil, rydym yn datblygu partneriaethau, cydweithrediadau a chyfleoedd ymgysylltu ar draws partneriaid addysg glinigol, Byrddau Iechyd lleol, cymdeithasau efelychu proffesiynol ac yn datblygu cyfleoedd mewn cymunedau a busnesau lleol.

Students undertaking surgery in simulation

Cyllid o £900K i Ddatblygu Hyfforddiant Rhith-wirionedd Pwrpasol

https://www.swansea.ac.uk/cy/swyddfar-wasg/newyddion-a-digwyddiadau/newyddion/2023/04/900000-o-gyllid-i-ddatblygu-hyfforddiant-vr-ar-gyfer-gweithwyr-iechyd-proffesiynol-yn-y-dyfodol.php

Virtual Reality a Welsh Reality

Mae Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi derbyn grant Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i ddatblygu cwricwlwm Realiti Rhithwir ar gyfer timau gofal iechyd.

Mae’r prosiect, a enwir yn Virtual Reality a Welsh Reality, wedi cael bron i £900,000 i ehangu dysgu trochi trwy greu cyfres o fodiwlau hyfforddi pwrpasol yn y Gymraeg a’r Saesneg a fydd yn mynd i’r afael â heriau cynyddol addysg glinigol gydag atebion arloesol.

Adeiladu systemau a modiwlau hyfforddiant realiti rhithwir o'r radd flaenaf

Gan weithio mewn partneriaeth â'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, mae tîm SUSiM a chwmni Datblygu Realiti Rhithwir blaenllaw o Gymru o'r enw Rescape yn ateb yr alwad i greu system a modiwlau hyfforddiant realiti rhithwir arloesol i helpu i ateb prosiect ymchwil arloesol gwerth £400,000 Menter Ymchwil Busnesau Bach Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Gydag arbenigedd mewnol mewn addysg glinigol, methodolegau efelychu a thîm datblygu realiti rhithwir gan weithio'n uniongyrchol gyda Rescape fel yr arweinydd busnes a datblygu ar gyfer y prosiect hwn, o ganlyniad i’r ymdrech gydweithredol hon llwyddodd y tîm i gyrraedd Cam 3 y prosiect sydd bellach yn cael ei brofi ar draws ysbytai yng Nghymru.

Prosiect Ysbyty Rhithwir Cymru Gyfan

Mae Prosiect Ysbyty Rhithwir Cymru Gyfan yn brosiect ymchwil ac arloesi ar y cyd sy'n Datblygu Amgylchedd Clinigol Rhithwirl ar gyfer Dysgwyr Gofal Iechyd yng Nghymru. Ei nod yw pennu amgylchedd rhithwir amlddisgyblaeth a thraws-arbenigedd ar-lein ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig (Ysbyty Rhithwir Cymru).

Partneriaid y prosiect: Virtus Tech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Rhwydwaith Trawma Mawr De Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Canolfan Arloesi Technoleg Gynorthwyol (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd

Dysgu cyfrifiadurol fel Moddolrwydd ar gyfer Addysgu Timau Clinigol

Mae tîm SUSiM yn gweithio gyda Body Interact ar hyn o bryd ar beilot i brofi a gweithredu platfform senario efelychu cyfrifiadurol ymysg ein timau addysg ryngbroffesiynol. Bydd y prosiect hwn yn para  12 mis a'i nod yw mesur effeithiolrwydd ac ymgysylltiad y dull hwn o addysg ar sail efelychu ar gyfer dysgwyr ac ystyriaethau o ran ei roi ar waith yn y Gyfadran.

Cadwch le ar gwrs SUSIM

Person using laptop to book a course