Unigolyn Pryderus

"Mae hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi'u sefydlu erbyn eu bod yn 14 oed, a thri chwarter erbyn iddynt gyrraedd 24 oed" Yr Athro Ann John

Mae ein hymchwil amlddisgyblaethol yn trawsnewid dealltwriaeth, gofal a chanlyniadau pobl ifanc ag iechyd meddwl gwael.

Mae ein gwaith ar iechyd meddwl pobl ifanc yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phobl ifanc ac mae ein hymchwil yn cael ei throsi'n gyflym i bolisi ac ymarfer gan gynnwys adnoddau i ysgolion a gweithwyr ieuenctid a chanllawiau ar gyfer ymarfer.

Gyda chyllid gwerth dros £3 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf, rydym yn arwain Platfform Data Iechyd Meddwl y Glasoed a thema Gwyddor Data Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Amlygodd un astudiaeth dan arweiniad yr Athro Ann John bwysigrwydd strategaethau integredig mewn ysgolion a gofal iechyd i gefnogi cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg.

"Mae plant ag iechyd meddwl gwael, sy'n niwroamrywiol neu sy'n hunan-niweidio yn aml yn cael trafferth yn yr ysgol. Gall absenoldebau a gwaharddiadau fod yn offeryn defnyddiol i nodi'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt.

Bydd ymyrraeth gynnar nid yn unig yn lleihau trallod ac anawsterau uniongyrchol i'r person ifanc ond gall hefyd dorri ar draws llwybrau bywyd gwael a gwella canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd."

Ar ôl y pandemig, mae arweinwyr addysg hefyd wedi cael eu hannog i flaenoriaethu rhyngweithio cymdeithasol ar gyfer plant o bob oed yn dilyn arolygon dan arweiniad ymchwilwyr o'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth. Er y gallent fod wedi cael eu hystyried fel y rhai lleiaf agored i drosglwyddo ac effeithiau negyddol Covid-19 ar iechyd, roedd cyfyngiadau’r pandemig wedi amharu ar addysg, gweithgarwch corfforol a chyfleoedd pobl ifanc i gymdeithasu.

Ychwanegodd Dr Michaela James, o'r Ganolfan:

"Mae'n bwysig bod lleoliadau addysg yn cydnabod pwysigrwydd lles eu myfyrwyr ac yn blaenoriaethu eu dymuniadau a'u hanghenion yn hytrach na chanolbwyntio ar addysg 'dal i fyny' a phwysau asesu."

Rhannu'r stori