Myfyrwyr ar fainc

“Mae ein damcaniaeth wedi’i chymhwyso i wella ‘iechyd cyfan’ mewn poblogaethau amrywiol” – Yr Athro Kemp

Wrth i ni ddechrau ar y ffordd hir o adfer ar ôl pandemig coronafeirws byd-eang, mae pwysigrwydd lles a'i rôl ym maes iechyd pobl yn cael ei ddwyn i flaen y gad o ran ymchwil.

Mae GENIAL Science yn brosiect ymchwil cydweithredol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe, sy'n cynnwys academyddion, clinigwyr, myfyrwyr PhD a myfyrwyr MSc.

Wedi'i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae'r prosiect wedi ymrwymo i hyrwyddo damcaniaeth ac ymarfer lles ac mae'r tîm y tu ôl iddo wedi datblygu fframwaith i helpu i ddeall a gwella 'iechyd cyfan'.

Fel yr esbonia'r cyd-sylfaenydd, yr Athro Andrew Kemp o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe:

Mae ein cymdeithas yn wynebu sawl her gysylltiedig fawr a fydd yn cael effaith gynyddol sylweddol ar iechyd byd-eang ac mae'n ddyletswydd arnom yn y sector prifysgolion ac ymchwil i weithio tuag at oresgyn heriau o'r fath er mwyn hyrwyddo iechyd a lles unigolion, cymunedau a'r blaned.

Drwy'r prosiect GENIAL Science, rydym wedi nodi pwysigrwydd hyrwyddo lles wrth geisio gwella iechyd, yn enwedig mewn perthynas â phobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig y mae'n rhaid eu rheoli, ac nad yw'n bosib iddynt gael eu hiacháu yn y rhan fwyaf o achosion.

Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer model gwyddonol trawsddisgyblaethol i ymdrin â lles sy'n cynnig potensial nas gwireddwyd eto i hyrwyddo ‘iechyd cyfan’ unigolion, cymunedau a natur, yng nghyd-destun llawer o'r heriau sylweddol sydd bellach yn wynebu'r ddynolryw, gan gynnwys trychineb yr hinsawdd.

Mae'r ymchwil hon wedi'i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Global Advances in Health and Medicine ac arweiniodd at wobr fawreddog Hyrwyddo Gofal Iechyd am Gyfraniad Eithriadol at Gyflawni Ymchwil.

Rhannu'r stori