Ysgrifennu yn llyfr

Mae'r pandemig wedi cael effaith barhaol ar iechyd a lles, ac mae angen ymchwil ar frys i ddeall yr effaith lawn ar wasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol

Dyfarnodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyllid hollbwysig i chwe phrosiect yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, sydd i gyd yn anelu at ddarparu mewnwelediadau achub bywyd i effaith y pandemig ar wasanaethau gofal iechyd a'i ddefnyddwyr yng Nghymru.

Mae'r gwobrau'n amrywio o Gymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cymdeithasol, sy'n rhoi cymorth i unigolion talentog ddod yn ymchwilwyr annibynnol tra'n ymgymryd â phrosiectau ymchwil o ansawdd uchel sydd o fudd i ofal cymdeithasol yng Nghymru, i Grantiau Ymchwil Iechyd, sy'n cefnogi prosiectau ymchwil o ansawdd uchel sy'n amlwg yn berthnasol i anghenion iechyd a lles, trefniadaeth neu ddarpariaeth gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

Gallai canfyddiadau o'r prosiectau ymchwil hollbwysig hyn wneud gwelliannau mawr i iechyd, gofal a lles rhai o aelodau’r gymdeithas sydd fwyaf agored i niwed ac effaith, a helpu i wella polisïau a gwasanaethau darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

  1. Effaith COVID-19 ar gydraddoldeb iechyd a marwolaethau ymhlith pobl ag epilepsi yng Nghymru
  2. Pennu'r arferion gofal cymdeithasol ataliol gorau yng nghyd-destun pobl hŷn sy'n derbyn gofal a chymorth gartref a'r rhai sy'n byw gyda Dementia
  3. Effaith economaidd iechyd COVID-19 ar ofal a chymorth i bobl dros 65 oed
  4. Sunproofed: Gwerthusiad dulliau cymysg o bolisïau diogelwch rhag yr haul mewn ysgolion cynradd yng Nghymru
  5. Effaith rhoi'r gorau i sgrinio am glefyd y llygaid diabetig ar bobl â diabetes yn ystod pandemig COVID-19
  6. Mapio mannau oer gwasanaethau yn sgîl cyfyngiadau symud COVID-19

Rhannu'r stori