Croeso i'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Drwy ddysgu, ymchwil ac arloesi rhyngddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol, fe'n dyfernir yn gyson yn un o'r darparwyr gorau yn y DU o ran addysg i weithwyr proffesiynol y gwyddorau iechyd a bywyd, a byddwn ni'n cynnal ein henw da rhyngwladol am ymchwil, addysgu ac arloesi ardderchog sy'n cyflawni gwelliannau go-iawn o ran iechyd, lles a'r economi yng Nghymru ac yn y byd.
Rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar draws y byd, gyda'n hymchwil arloesol a thrwy ein gwaith gyda'r GIG, Gwasanaethau Cymdeithasol a'r sector preifat.
Mae ein cymuned o fyfyrwyr, ymchwilwyr a phartneriaid yn defnyddio ac yn elwa o arbenigedd ein hymchwilwyr ac addysgwyr rhyngwladol, gan adeiladu ar ein heffaith ymchwil rhagorol yn y byd go iawn.
Archwiliwch eich opsiynau cwrs
Os ydych chi am ymuno a ni, pam nad ydych chi’n ymuno a’n Diwrnod Agored Israddedig nesaf ac archwilio’r opsiynau cwrs sydd ar gael i chi. Heb os, diwrnod agored yw’r ffordd orau i ddod i’n hadnabod ni; cael profiad o’n campws ar y traeth, cwrdd â’r tîm dysgu, a siarad â’n myfyrwyr presennol.
Archebwch nawr - Diwrnodau Agored
Ein Effaith Ymchwil
Mae gan y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd gymuned ymchwil fywiog sy'n denu cyllid ymchwil o fri a myfyrwyr PhD cyffrous. Mae cyllid ymchwil mawr diweddar a ddyfarnwyd i'r gyfadran yn cynnwys y British Heart Foundation, UKRI, HDRUK, ADRN, MRC a Smart Expertise trwy Lywodraeth Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â heriau byd-eang a gwella iechyd, cyfoeth a llesiant cymdeithas. Yn ei phobl ac yn ei huchelgais am ragoriaeth mae cryfder cymuned ymchwil y Gyfadran. Trwy weithio ar y cyd ar draws themâu ymchwil y gyfadran, gall ein hymchwilwyr talentog wthio ffiniau yn eu meysydd ac arloesi o fewn, a thu hwnt, i'r gymuned ymchwil.
Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad o yrru ymchwil i wella iechyd, lles a chyfoeth. Rydym yn cymryd mewnwelediadau o erchwyn y gwely i'r fainc ac yn ôl eto, gan arwain at effaith byd go iawn a chanlyniadau gwell i gleifion. Mae safon ein hymchwil unwaith eto wedi cael ei chydnabod yn REF2021, gyda 85% o ymchwil y gyfadran yn cael ei hadnabod i arwain y ffordd yn fyd-eang neu’n rhagorol yn rhyngwladol (REF2021).