Cyn i chi gyrraedd
Ceisiwch gwrdd â'ch cyd-breswylwyr ar Facebook a chreu grŵp Facebook ar gyfer eich fflat. Cofiwch drafod pwy sy'n dod â beth i osgoi gorlwytho'r gegin gyda'r un teclynnau!
Cyrraedd Yma
Cyfeiriad Tŷ Beck yw:
Tŷ Beck
Heol Sgeti
Uplands
Abertawe
Gan ddibynnu ar y bloc lle byddwch yn byw, bydd eich côd post yn wahanol:
Bloc A: SA2 0NF
Bloc B: SA2 0NF
Bloc C: SA2 0NF
Bloc D: SA2 0NG
Bloc E: SA2 0NH
Bloc F: SA2 0NL
Bloc G: SA2 0NL
Cyrraedd ar y Campws
Pan fyddwch yn cyrraedd, ewch i'r Dderbynfa a leolir ar y safle o flaen y llety.
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 4pm.
I gasglu allweddi eich llety, bydd angen i chi gwblhau eich proses sefydlu drwy eich cyfrif llety yn gyntaf.
Os ydych chi'n cyrraedd y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â'r tîm diogelwch, sydd ar gael dydd a nos ac a fydd yn gallu rhoi mynediad i chi i'ch llety.
Ffoniwch: + 44 (0) 1792 604271
44 (0) 1792 205678
Gwybodaeth Bellach
Mae eich Tudalen Gwybodaeth i Breswylwyr yn rhoi gwybodaeth i chi am bopeth y bydd ei angen arnoch drwy gydol eich amser ym mhreswylfa Tŷ Beck.