Llety Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan

Byw Ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan
Gelwir Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan hefyd yn HSV neu 'Y Pentref'. Mae'r safle mawr hwn oddi ar y campws yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr sy'n dymuno byw ar safle oddi ar y campws sy'n rhatach ac sy'n cynnig amgylchedd cymdeithasol. Mae'n gartref i fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf, ôl-raddedigion a myfyrwyr sy'n dychwelyd.
Mae Hendrefoelan yn gartref i 686 o fyfyrwyr ac fe'i lleolir mewn ardal breswyl. Mae'r Pentref o fewn pellter cerdded i siopau, tafarndai a siopau cludfwyd lleol. Mae hefyd yn cynnig golchdy ac ardaloedd barbeciw ar y safle.
Tocynnau Bws Myfyrwyr
Bydd preswylwyr ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan sydd â thenantiaeth am y cyfnod astudio llawn (o leiaf 20 wythnos) yn derbyn tocyn bws am ddim ar gyfer y cyfnod cyfan (sy'n costio £310 fel arfer). Mae gwasanaethau bws yn teithio'n rheolaidd i'r ddau gampws ac i ganol y ddinas, ac maent yn cynnig WiFi am ddim wrth deithio. Bydd y tocyn bws yn dod i ben pan ddaw'r denantiaeth i ben. Er ein bod ni'n darparu'r tocyn bws nid ydym yn gyfrifol am y gwasanaethau bws. Ddim ar gael i ymwelwyr/llety arhosiad byr.
Mae Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan hefyd yn cynnig parcio ceir 24 awr y dydd am hyd eich tenantiaeth, felly mae'n ddewis gwych os ydych yn bwriadu dod â char.
Ystafell Safonol
- Ystafell ymolchi a rennir
- Cegin a rennir
- Tocyn bws am ddim gyda WiFi (contractau 13+ wythnos)
- Parcio dros dro ar y safle i breswylwyr
- 686 o ystafelloedd safonol, tua 7 gwely ym mhob tŷ
- Desg, cadair, cwpwrdd dillad a silffoedd yn eich ystafell
- Golchdy ar y safle (a gynhelir gan Undeb y Myfyrwyr)
£95 y person, yr wythnos.
