Dod o hyd i'ch cartref ôl-raddedig

Graddedigion yn taflu eu hetiau yn yr awyr 

Ble i fyw yn Abertawe

Fel myfyriwr ôl-raddedig sy'n ymuno â chymuned Prifysgol Abertawe, rydym ni am eich helpu i ddod o hyd i le y gallwch ei alw'n gartref. Rydym yn deall yr hyn mae ei angen arnoch ac rydych chi ei eisiau o lety i'ch cefnogi yn ystod y bennod nesaf hon.

Darperir llety ôl-raddedig mewn pedair preswylfa: Campws y Bae, Campws Parc Singleton, Tŷ Beck yn agos i ardal yr Uplands, a Phentref Myfyrwyr Hendrefoelan. Yn ogystal, rydym yn cynnig llety preifat oddi ar y campws i'r bobl hynny sydd am fyw mewn tŷ neu fflat wrth astudio.

Cynigir tenantiaethau ar sail benodol, dros 51 o wythnosau er y gallwn ni gynnig rhai fflatiau ôl-raddedig penodol ar denantiaeth 40 wythnos ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan a Champws y Bae. Gallwch drafod hyd y denantiaeth mae ei angen arnoch gyda'n tîm llety.

Gan y gall cyrsiau ôl-raddedig bara y tu hwnt i fis Medi, sef y dyddiad gorffen tenantiaeth a roddir, efallai bydd yn rhaid i chi gyflwyno ail gais am lety ar gyfer y mis Medi dilynol. Bydd ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf (o fis Medi 2023) yn agor tua diwedd mis Ionawr 2023. Gallwch nodi eich ystafell bresennol os ydych am aros yn yr un fflat, yn amodol ar argaeledd.

Pa opsiwn sydd orau i fi?

 

Mae penderfynu ble i fyw yn ystod eich amser yn Abertawe'n dibynnu'n fawr ar eich dewis personol. Mae gan bawb anghenion a dyheadau gwahanol ac rydym ni'n hyderus y bydd yr amrywiaeth rydym ni'n ei chynnig yn cynnwys rhywbeth at eich dant chi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein preswylfeydd yma.

Yn ogystal, rydym yn cynnig ardaloedd penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg y mae'n well ganddynt fyw gyda siaradwyr Cymraeg eraill, ardaloedd un rhyw, preswylfeydd dim alcohol, ardaloedd tawel a llety i fyfyrwyr aeddfed, yn ogystal â phreswylfeydd ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio pynciau â hyd cwrs ansafonol. Mae sawl un o'n hystafelloedd yn hygyrch neu gellir eu haddasu at eich anghenion chi. Os hoffech chi fyw mewn ardal benodol, nodwch hyn ar eich cais a gall ein tîm dyrannu llety geisio eich cefnogi gyda hyn.

Mae byw ar gampws Singleton neu'r Bae yn eich rhoi chi wrth wraidd bywyd prifysgol. Mae llety hunan-arlwyo yn cynnwys ystafelloedd en-suite â chelfi gyda chegin a rennir ac ardal fwyta.

Mae Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan yn darparu llety hunan-arlwyo a chyfleusterau a rennir sy'n fforddiadwy ac sy'n cymharu'n ffafriol â llety'r sector preifat. Yn ogystal, mae gennych chi le parcio car yn eich preswylfeydd a darperir tocyn bws am ddim i chi fel rhan o'ch tenantiaeth.

Yn Nhŷ Beck, mae gennym fflatiau sengl a theulu tua milltir o Gampws Parc Singleton yn ardal boblogaidd yr Uplands. Oherwydd y tenantiaethau 51 wythnos, mae'r llety hwn yn ddewis poblogaidd gyda myfyrwyr ôl-raddedig a rhyngwladol.

Byw oddi ar y campws

Mae rhai myfyrwyr ôl-raddedig yn penderfynu y byddai'n well ganddynt fyw oddi ar y campws mewn tai a fflatiau'r sector preifat yn Abertawe. Oes nad yw preswylfeydd myfyrwyr yn addas i chi, mae gennym opsiynau eraill ar eich cyfer. Mae ein cronfa ddata chwiliadwy ar-lein, Studentpad, yn eich galluogi i ddod o hyd i dai preifat sydd ar gael, yn agos at y ddau gampws, yn ogystal â chyfleusterau lleol fel siopau, bariau a bwytai. Dyma ffordd ddi-drafferth o chwilio am dŷ, ac mae’n llai o straen.

Mae’r Tîm Llety bob amser yn hapus i helpu ac maen nhw’n gallu eich cefnogi gyda phob cam o'r broses.

Angen rhagor o help wrth benderfynu beth sy'n iawn i chi?

Gwrandewch ar rai o'n myfyrwyr yn siarad am lety ar y campws ac oddi ar y campws.