Byw yn Abertawe
Mae gan Abertawe'r pumed rhent misol isaf o blith dinasoedd prifysgol y DU yn seiliedig ar ffigyrau Mynegai Byw Myfyrwyr Natwest 2020 ac mae’r ddinas yn yr 11eg safle ar gyfer costau byw yn gyffredinol.
Isod ceir costau byw cyfartalog 2021/2022. Mae lefelau’r costau hyn yn dibynnu’n fawr ar eich ffordd o fyw a bydd yn amrywio o berson i berson, ond mae bob amser yn syniad da llunio cyllideb – a chadw ati!
COSTAU NEUADDAU PRESWYL
Gwariant
|
Y gost fesul wythnos
|
Y gost fesul blwyddyn academaidd (40 wythnos)
|
Rhent
|
£148.00*
|
£5920.00
|
Nwy/Trydan Dwr
|
Wedi'i gynnwys yn y Rhent
|
Wedi'i gynnwys yn y Rhent
|
Yswiriant Cynnwys
|
Wedi'i gynnwys yn y Rhent
|
Wedi'i gynnwys yn y Rhent
|
Costau Teithio
|
£7.31
|
£380
|
*Yn seiliedig ar ystafell ganolig ei maint en-suite ar Gampws Singleton (gall amrywio o £142-159 yr wythnos)
Costau Byw Cyffredinol
Costau Byw Cyffredinol
|
Costau fesul wythnos
|
Y gost fesul blwyddyn academaidd (40 wythnos)
|
Gwariant Hamdden
|
£16.53
|
£661.30
|
Trwydded deledu/Adloniant cartref arall
|
£15.84
|
£233.60
|
Dillad/Golchi Dillad
|
£10.69
|
£427.60
|
Bwyd/Deunydd Ystafell Ymolchi/Eitemau Cartref
|
£22.08
|
£883.20
|
Ffôn (Symudol)
|
£3.09
|
£123.60
|
Dillad
|
£8.38
|
£355.20
|
Costau gofal plant
|
£200.00*
|
£8000.00
|
*Yn seiliedig ar gost gyfartalog o £40 fesul diwrnod llawn, 5 niwrnod yr wythnos. Cofiwch, hwyrach bod hawl gennych chi i dderbyn grantiau atodol i helpu gyda chostau gofal plant.
GWYBODAETH BWYSIG
Bwriad y dudalen hon yw rhoi enghraifft ichi o gostau byw myfyriwr yn y brifysgol. Bydd costau byw go iawn yn amrywio o fyfyriwr i fyfyriwr.
SYLWER: amcangyfrifon rhesymol yw’r holl gostau byw ond ni ddylid dibynnu arnyn nhw. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod ganddo fe ddigon o arian i dalu am ei gostau byw tra’n astudio yn y brifysgol. Ni all y ffigyrau hyn gyfrif am amgylchiadau unigol a’r bwriad yn unig yw eu bod yn ganllaw cyffredinol i’ch helpu i baratoi’ch cyllid cyn ichi fynychu’r brifysgol.
Seilir y ffigyrau ar gostau cyfartalog y bydd myfyrwyr yn eu talu a gellid eu lleihau drwy gyllidebu gofalus.
I gael gwybodaeth am ba incwm y gallech chi fod yn gymwys ar ei gyfer ewch i’n Tudalen Cyllid Israddedigion.
Costau'r Cwrs
Costau Cyrsiau
|
Costau fesul Wythnos
|
Y gost fesul blwyddyn academaidd (40 wythnos)
|
Llyfrau
|
£9.04
|
£361.60
|
Argraffu a rhwymo
|
£1.15
|
£46.00
|
Offer ar gyfer y Cwrs
|
£1.89
|
£75.60
|
Teithiau Maes
|
£1.46 – £32.45
|
£58.40 - £1298.00
|
Gan ddibynnu ar eich cwrs ceir nifer o gostau gorfodol ac opsiynol y bydd gofyn ichi eu talu o bosibl. Cysylltwch â’ch adran i gael rhestr fanwl o’r costau penodol sy’n gysylltiedig â’ch cwrs.
Dylech chi hefyd fod yn ymwybodol bod angen ichi ystyried hefyd y gost ynghlwm wrth gyllid ffioedd dysgu os nad oes gennych chi’r hawl iddo neu eich bod yn penderfynu peidio â derbyn mynediad iddo.
Hwyrach y bydd costau gorfodol neu opsiynol ynghlwm wrth raglenni (neu fodiwlau) penodol y bydd yn angenrheidiol ichi gymryd rhan ynddyn nhw’n llwyr er mwyn cwblhau’r rhaglen rydych chi wedi’i dewis.
Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma Cost ychwanegol.