Cymhwyster Safon Uwch
Fel arfer, mae cynigion ar gyfer rhaglenni yn yr Ysgol Reolaeth o fewn yr ystod 'ABB-BBB' neu gyfwerth.
Ystyrir pob cais yn unigol, gyda graddau TGAU, pynciau a graddau Lefel UG, profiad gwaith, geirdaon a’r datganiad personol i gyd yn cael eu hystyried.
Mae cynigion amrywiol yn cael eu gwneud yn dibynnu ar y pynciau a astudiwyd.
Nid oes angen cymhwyster Safon Uwch mewn Busnes, Economeg, Mathemateg na Chyfrifeg/Cyllid. Nid ydym yn ystyried Astudiaethau Cyffredinol yn bwnc Safon Uwch at ddibenion gwneud cynigion. Gall myfyrwyr gyfuno cymwysterau Safon Uwch â'r cymwysterau eraill a restrir isod. Mae hefyd angen TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C o leiaf.
Bagloriaeth Ryngwladol
Bydd yr Ysgol Reolaeth yn gwneud cynigion i fyfyrwyr sydd â Bagloriaeth Ryngwladol ddisgwyliedig o 32–33 neu uwch (neu sydd â hyn yn barod).
BTEC (18-uned)
Bydd yr Ysgol Reolaeth yn gwneud cynigion i fyfyrwyr sydd â chanlyniadau BTEC disgwyliedig o DDM neu well (neu sydd â'r canlyniadau hyn yn barod).
Saesneg
Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol ennill cyfartaledd o 6.0 a rhaid i bob cydran fod yn 5.5 neu fwy mewn IELTS neu brofion cyfwerth.
I fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofyniad iaith Saesneg, rydym yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi cyn-sesiynol y mae modd eu dilyn cyn dechrau ar eu cwrs gradd. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
Cymwysterau Rhyngwladol
Gweler y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn, a'r lefel ofynnol, i Fyfyrwyr Rhyngwladol (nad ydynt o’r UE) a myfyrwyr o’r UE.
Opsiynau Blwyddyn Sylfaen: BSc Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen
Myfyrwyr o'r DU
Mae blwyddyn sylfaen ar gael i fyfyrwyr sydd ddim yn ennill y graddau angenrheidiol ar gyfer y rhaglen gradd o'u dewis.
Myfyrwyr Rhyngwladol/o'r UE
Ewch i wefan Y Coleg am wybodaeth cyrsiau a gofynion mynediad.