Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
  5. Meddygaeth (i Raddedigion), MBBCh
  6. Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
  5. Meddygaeth (i Raddedigion), MBBCh
  6. Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol
Brecon Beacons

Beth yw'r llwybr Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol?

Nod y Llwybr Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol (RRHIME) yw cynyddu nifer y myfyrwyr a'r meddygon sy'n ymarfer yng Nghymru wledig a chodi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion (GEM) o fanteision a gwirioneddau byw a gweithio mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.

Cefndir a Chyd-destun

3 cliffs

Gall ymarfer mewn ardaloedd gwledig, anghysbell a heb wasanaeth digonol gynnig manteision amrywiol a diddorol i yrfa meddyg.

Fodd bynnag, ystyrir ardaloedd gwledig ac anghysbell yn aml fel amgylchiadau heriol i ymarfer meddygaeth ynddynt ac mae hyn yn cyfrannu at anawsterau wrth recriwtio meddygon i ardaloedd o'r fath. Mae hon yn her sy'n berthnasol i Gymru'n benodol, sydd ag ardaloedd gwledig mawr yn ogystal â diffyg meddygon arbenigol dan hyfforddiant a meddygon cymwysedig.

Mae ymchwil yn nodi y gall profiad 'ymdrochol' cynnar a chynhwysfawr o ofal iechyd gwledig hwyluso cadw myfyrwyr meddygaeth a meddygon dan hyfforddiant yn yr amgylchedd gwledig. Mae gwerth profedig hefyd i athrawon a phreceptoriaid o gael myfyrwyr meddygaeth a meddygon dan hyfforddiant mewn ymarfer gwledig.

Gwybodaeth am lwybr RRHIME

Aberystwyth

Mae RRHIME (Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol) yn Llwybr Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol sydd wedi'i ddiffinio'n glir ac sydd wedi'i gynnwys drwy gydol y cwricwlwm Meddygaeth i Raddedigion.

Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio ar ofal gwledig ac anghysbell ar gyfer elfennau o'u haddysg. Un elfen hollbwysig ar sail tystiolaeth o RRHIME yw bod myfyrwyr yn profi cyfnod ymdrochol hirach mewn amgylchoedd iechyd gwledig a/neu'n canolbwyntio ar faterion iechyd gwledig ac anghysbell. Mae'r rhain yn cynnwys meddygaeth teulu ac ysbytai dosbarth gwledig, yn ogystal â gofal eilaidd gwledig yn Aberystwyth a Hwlffordd.

Ymgymerir â modiwlau dewisol 3edd flwyddyn mewn ardal wledig ac anghysbell dramor, fel arfer.

Gwybodaeth bellach

Deilliant Dysgu i Fyfyrwyr o'r Llwybr RRHIME:

  • Arddangos dealltwriaeth o faterion iechyd penodol sy'n ymwneud â chleifion, gofalwyr a chymunedau mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell, gan gynnwys:
    • Cyflyrau cronig a hirdymor;
    • Cyflwyniad hwyr clefyd;
    • Trin cyflyrau acíwt a brys, gan gynnwys gofal cyn ysbyty;
    • Iechyd plant a mamolaeth;
    • Gofal henoed;
    • Gofal lliniarol a therfynol; effaith strwythurau cymunedol newidiol (e.e. mwyngloddio, ffermio, newidiadau demograffig)
  • Arddangos ymwybyddiaeth o bolisïau a strategaethau lleol a chenedlaethol i fynd i'r afael â phroblemau mynediad, tegwch a gwella canlyniadau iechyd pobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cymunedau gwledig ac anghysbell.
  • Gallu esbonio'r sail resymegol ar gyfer darpariaeth gwasanaethau integredig presennol a newidiol i gefnogi unigolion a chymunedau mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.
  • Meithrin cysylltiadau a datblygu rhwydweithiau iechyd gwledig ac anghysbell cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Tynnu o brofiad amrywiaeth o leoliadau a phrofiadau clinigol i adnabod cyfeiriad gyrfa yn y dyfodol.

Manteision i fyfyrwyr:

Y brif fantais yw hwyluso ymdrochi mewn meddygaeth wledig ac anghysbell er mwyn rhoi profiad i fyfyrwyr sydd â diddordeb i wneud penderfyniadau gwybodus am yrfa mewn cymunedau heb wasanaeth digonol o'r fath.

Os bydd myfyrwyr am ddilyn gyrfa mewn meddygaeth wledig ac anghysbell, bydd ymarfer mewn amgylchedd gwledig yn datblygu sgiliau a rhinweddau ychwanegol. Rhaid i ymarferwyr gwledig, boed mewn gofal cynradd neu eilaidd, fabwysiadu ymagwedd fwy rhyngddisgyblaethol tuag at feddygaeth, gan gyflawni amrywiaeth mwy o rolau. Maent hefyd yn ymgymryd â rôl fwy ymarferol yn ystod llwybr y claf a phenderfyniadau perthnasol, yn ogystal â rôl amlycach mewn iechyd cyhoeddus. Mae sgiliau technoleg gwybodaeth yn hanfodol, gan gynnwys fideo-gynadledda a 'teleiechyd'.

Mae ymarferwyr gwledig yn aml yn rhan ganolog o'u cymuned, ond gall hyn fod yn heriol yn ogystal â manteisiol. Mae gwydnwch a hunangymhelliant yn rhan fawr o fod yn ymarferydd gwledig llwyddiannus. Mae ymarfer mewn amgylchedd gwledig hefyd yn cynnig cyfle i weld lleoliadau hardd, gydag adnoddau gwych i bobl sy'n dwlu ar yr awyr agored. Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn Llwybr RRHIME yn colli unrhyw rannau o gwricwlwm GEM MBBCh, ac ni fyddant dan anfantais os na fyddant yn dewis dilyn gyrfa mewn meddygaeth wledig/anghysbell ar ôl cymhwyso.

Sut i gael mynediad at RRHIME

Gall nifer bach o fyfyrwyr o bob carfan ddilyn RRHIME. Mae myfyrwyr yn dechrau ar y llwybr ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, ond gallant ymuno yn yr ail flwyddyn hefyd. Gwahoddir myfyrwyr i fynychu cyfarfod rhagarweiniol RRHiME yn eu blwyddyn gyntaf i ddysgu mwy am y trac a'r hyn y bydd yn ei olygu. Yn dilyn mynychu'r cyfarfod gall myfyrwyr wedyn roi eu henw ymlaen i ymuno â'r trac. Os yw'r diddordeb yn uchel efallai y bydd angen cyflwyno proses ymgeisio.Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno cais myfyriol yn amlinellu pam yr hoffent ddilyn y llwybr. Rhoir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy'n dangos ymroddiad i weithio mewn gofal iechyd gwledig ac anghysbell ar ôl graddio, yn enwedig yng Nghymru. Os bydd mwy na chwe ymgeisydd o unrhyw garfan, ystyrir hwy gan is-grŵp y Bwrdd Astudio mewn ymgynghoriad â'r Sefydliad Iechyd Gwledig (gweler isod). Y pennaeth GEM sy'n gwneud y penderfyniad terfynol, a rhoir gwybod i fyfyrwyr o fewn chwe wythnos i ddyddiad cau'r ceisiadau.

Cynnwys y cwricwlwm:

I gwblhau'r llwybr RRHIME yn llwyddiannus a chyflawni'r deilliannau dysgu, disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd â'r elfennau cwricwlaidd canlynol:

  • Rhaid i fyfyrwyr RRHIME gwblhau o leiaf ddau Gyfle Dysgu mewn Cyd-destun Clinigol gan ganolbwyntio/fyfyrio ar faterion gofal gwledig neu anghysbell.
  • Rhaid i fyfyrwyr RRHIME gwblhau o leiaf 2 brentisiaeth glinigol mewn lleoliad gwledig neu anghysbell yn ystod Prentisiaethau Clinigol 1 i 6 (Blynyddoedd 1-4).
  • Rhaid i fyfyrwyr RRHIME gwblhau 1 Lleoliad Cynorthwyol Iau yn eu 4edd flwyddyn mewn lleoliad gwledig neu anghysbell. Os ydych yn dewis defnyddio'ch Lleoliad Cynorthwyol Iau Dysgu yn y Gymuned fel eich elfen Dysgu yn y Gymuned RRHIME, yna mae'n rhaid i chi gwblhau'r Lleoliad Cynorthwyol Iau hefyd ar gyfer llawdriniaeth neu feddygaeth, gan ganolbwyntio ar RRHIME, er mwyn i chi fodloni gofynion y llwybr RRHIME.
  • Rhaid i fyfyrwyr RRHIME gwblhau o leiaf un lleoliad Dysgu yn y Gymuned mewn lleoliad gwledig neu anghysbell yn ystod un flwyddyn o'r rhaglen. Gall hyn gynnwys y lleoliadau undydd ym mlynyddoedd 1 neu 2, bloc y 3edd flwyddyn neu'r Lleoliad Cynorthwyol Iau ym mlwyddyn 4.
  • Rhaid i fyfyrwyr RRHIME gwblhau o leiaf ddau Brosiect Cyd-ran a Ddewisir sy'n gysylltiedig â RRHIME.
  • Rhaid i fyfyrwyr RRHIME gysylltu agwedd sylfaenol ar un astudiaeth achos blwyddyn â RRHIME. Rhowch fanylion am yr agweddau hyn isod.
  • Rhaid i fyfyrwyr RRHIME gychwyn ar leoliad dewisol sy'n gysylltiedig â RRHIME ym mlwyddyn 4.
  • Gwahoddir myfyrwyr RRHIME i fynychu cyfarfodydd RRHIME chwarterol gyda siaradwyr allanol o wahanol agwedd ar iechyd gwledig.
  • Er mwyn cael y gorau o'r trac RRHiME, anogir myfyrwyr i fynd ati i chwilio am gyfleoedd i gwblhau profiadau dysgu cysylltiedig â RRHiME.
  • Bydd myfyrwyr RRHIME yn cael eu hychwanegu at gymuned ar-lein gyda myfyrwyr RRHIME eraill i gael mynediad at gynnwys sy'n gysylltiedig â RRHIME, eu e-bortffolio unigol eu hunain ac i ddod i adnabod ei gilydd.
  • Bydd myfyrwyr RRHIME yn defnyddio eu e-bortffolio unigol eu hunain i adlewyrchu a dogfennu eu lleoliadau a'u profiadau cysylltiedig â RRHIME. Mae angen cwblhau'r e-bortffolio i gwblhau'r trac RRHIME.

Gobeithiwn ddenu unigolion brwdfrydig sydd â diddordeb mewn gweithio mewn ardaloedd gwledig; yn enwedig y rhai sy'n bwriadu aros yng Nghymru yn y dyfodol.

Astudiwch gyda Ni Cyrsiau Meddygaeth Israddedig

Ein Hymchwil Ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth

  • Ein Cyfadrannau
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
      • Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh.)
      • Biocemeg a Geneteg, BSc (Anrh)
      • Biocemeg a Geneteg, MSci (Anrh)
      • Biocemeg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrhydedd)
      • Biocemeg Feddygol, BSc (Anrh)
      • Biocemeg Feddygol, MSci (Anrh)
      • Biocemeg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrhydedd)
      • Biocemeg, BSc (Anrh)
      • Biocemeg, MSci (Anrh)
      • Ffarmacoleg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh.)
      • Ffarmacoleg Feddygol, BSc (Anrh)
      • Fferylliaeth gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen), MPharm (Hons)
      • Fferylliaeth, MPharm (Anrh)
      • Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrhydedd)
      • Geneteg Feddygol, BSc (Anrh)
      • Geneteg Feddygol, MSci (Anrh)
      • Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrhydedd)
      • Geneteg, BSc (Anrh)
      • Geneteg, MSci (Anrh)
      • Gwyddorau Meddygol Cymhwysol (gyda Blwyddyn Sylfaen), BSc (Hons)
      • Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, BSc (Hons)
      • Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh.)
      • Iechyd Poblogaethau a'r Gwyddorau Meddygol, BSc (Anrh)
      • Meddygaeth (i Raddedigion), MBBCh
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Clirio
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Cyfres Gweminar Prifysgol Abertawe
Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342