I wneud cais am Feddygaeth i Raddedigion, rhaid eich bod wedi cyflawni pob un o'r canlynol erbyn amser y cais:
- Isafswm gradd C TGAU mewn Mathemateg
- Isafswm gradd C TGAU mewn Cymraeg/Saesneg
- Cwblhau profion derbyn (Gwybodaeth llawn isod)
AC wedi cyflawni neu wedi'i ragweld* i gyflawni o leiaf un o'r canlynol:
- gradd israddedig 2:1 mewn unrhyw bwnc, neu
- Teilyngdod mewn gradd meistr integredig mewn unrhyw bwnc, neu
- Gradd israddedig 2:2 A Llwyddiant mewn gradd uwch ôl-raddedig (Meistr neu PhD) mewn unrhyw bwnc
*Rhaid cadarnhau canlyniadau'r graddau a ddefnyddir i gefnogi ceisiadau heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf yn y flwyddyn gofrestru arfaethedig. Bydd cynigion sy’n amodol ar ganlyniadau gradd yn cael eu tynnu’n ôl os bydd canlyniadau’n weddill ar ôl y dyddiad hwn.
Astudiaeth flaenorol ar gwrs Meddygaeth
Ni chaniateir trosglwyddo o raglen Feddygaeth arall.
Nid ydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sydd wedi dechrau gradd feddygol yn flaenorol ac nad ydynt wedi symud ymlaen oherwydd methiant academaidd, addasrwydd i ymarfer neu faterion proffesiynoldeb. Os yw ymgeisydd wedi gadael rhaglen gradd feddygol flaenorol am resymau eraill, gellir ystyried ei gais fesul achos, a rhaid i hyn gael ei gefnogi gan dystiolaeth a ddarparwyd gan ei ysgol feddygol flaenorol.
Cofrestriad cydamserol
Nid yw rheoliadau'r Brifysgol yn caniatáu cofrestru cydamserol mewn Meddygaeth Mynediad i Raddedigion ac unrhyw raglen arall sy'n rhoi dyfarniad yn y brifysgol hon nac unrhyw brifysgol arall. Rhaid cwblhau pob rhaglen radd arall cyn cofrestru ar y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion.
Cymwysterau cyfwerth
Rydym yn derbyn cymwysterau ysgol uwchradd a gradd cyfatebol a gymeradwyir gan Brifysgol Abertawe. Ar gyfer ymgeiswyr o wledydd mwyafrifol di-Saesneg, derbynnir IELTS 7.0 gyda dim llai na 7.0 mewn siarad a 6.5 mewn gwrando, darllen ac ysgrifennu yn gyfwerth. Mae manylion profion hyfedredd Saesneg cymeradwy i'w gweld .
Profion derbyn
Ar gyfer ceisiadau Cartref, rydym yn derbyn canlyniadau profion GAMSAT, ac ar gyfer ceisiadau Rhyngwladol, rydym yn derbyn naill ai canlyniadau GAMSAT neu MCAT. Rhaid i'r canlyniadau fod o eisteddiad o fewn dwy flynedd i'r cais. Mae'r rhestr o eisteddiadau GAMSAT dilys i'w gweld yma. Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r sgôr terfyn blynyddol (a bennir unwaith y bydd holl sgoriau'r prawf wedi'u cadarnhau) ac uwch yn cael eu gwahodd i gyfweliad.
Yr isafswm sgôr GAMSAT derbyniol yw 50, gan gynnwys lleiafswm o 50 ym Mhapur 3 (Rhesymu yn y Gwyddorau Biolegol a Ffisegol).
Y sgôr MCAT lleiaf sy'n dderbyniol yw 500.
*NODWCH - RHAID i bob ymgeisydd fod wedi sefyll y prawf GAMSAT neu brawf MCAT cyn cyflwyno cais. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw gais nad oes ganddo naill ai sgôr GAMSAT neu MCAT dilys, na thystiolaeth bod ymgeisydd wedi sefyll y prawf ac yn aros am ei ganlyniad. Mae profion GAMSAT a MCAT ar gael i brifysgolion yn uniongyrchol ddechrau mis Tachwedd.