Trosolwg o'r Cwrs
Mae ceisiadau ar gyfer ein rhaglenni Fferylliaeth MPharm bellach ar gau i ymgeiswyr o'r DU ar gyfer mynediad 2023. Os ydych chi’n chwilio am le ar gyfer mis Medi 2023, mae gennym ni gyrsiau amgen ar gael o hyd yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys ein llwybrau at feddygaeth a all arwain at Feddygaeth i Raddedigion.
Caiff gofal iechyd modern ei ddarparu gan dîm amlddisgyblaethol ac, yn gynyddol, mae fferyllwyr yn darparu gwasanaethau clinigol ehangach a newydd mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd. Mae ein gradd mewn Fferylliaeth yn cydnabod y rolau newydd ac uwch hyn ac mae'n cyfuno gwyddoniaeth ac ymarfer i baratoi myfyrwyr i fynd i'r afael â heriau tirwedd newidiol fferylliaeth.
Ar ôl llwyddo i gwblhau’r modiwlau, gan ennill cyfanswm cyfartalog cyffredinol o 60%, yn y Flwyddyn Sylfaen a chan ennill o leiaf 60% ym modiwlau Sylfeini Fferylliaeth a Hanfodion Cemeg Organig, byddwch chi’n symud i Flwyddyn 1 ac yn dilyn cwricwlwm a luniwyd i adlewyrchu ymagwedd fferyllwyr at gleifion a sut y mae cleifion yn cyflwyno eu hunain i fferyllwyr.
Rydyn ni’n cyfuno egwyddorion gwyddonol sylfaenol a chymhleth â sut y cânt eu cymhwyso er mwyn rhoi dealltwriaeth glir i chi o faes ymarfer fferylliaeth.