Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor
academaidd personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
- Ysgrifennu academaidd
- Mathemateg ac ystadegau
- Meddwl critigol
- Rheoli amser
- Sgiliau digidol
- Sgiliau cyflwyno
- Cymryd nodiadau
- Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
- Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ein myfyrwyr yn bwysig i ni a'n nod yw sicrhau eich bod yn ennill y dosbarth gradd gorau. Mae gennym system mentora personol lle y dyrennir mentor academaidd i chi. Mae'r mentor hwn yn aelod o staff academaidd a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol i chi ac yn rheoli eich datblygiad academaidd drwy gydol eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae gan yr holl aelodau o staff oriau swyddfa, lle maent ar gael i weld yr holl fyfyrwyr a gellir mynd atynt am gymorth ychwanegol sy'n ychwanegol at oriau cyswllt ffurfiol. Mae gennym hefyd bolisi "drws agored" lle mae ein hathrawon academaidd ar gael i siarad â chi ar unrhyw adeg am unrhyw ymholiadau neu bryderon academaidd a allai fod gennych.
I fyfyrwyr y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt, gellir cyrchu'r rhaglen Maths and Stats Success (MASS) a/neu the Academic Success Programme (ASP) drwy Blackboard. Byddwn yn dangos i chi sut i hyrwyddo'r rhaglenni hyn yn ystod y sesiwn sefydlu ac ym modiwl cyntaf y rhaglen. Bydd myfyrwyr sy'n dychwelyd hefyd yn gallu cyrchu'r ddau wasanaeth sy'n cynnig cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr mewn perthynas ag ysgrifennu academaidd a/neu help gyda'r elfen mathemateg/ystadegau yn eu cwrs. Mae sesiynau galw heibio anffurfiol wedi'u hamserlenni ar gyfer MASS – does dim angen apwyntiadau ac mae'r holl gymorth yn cael eu darparu gan fyfyrwyr cymwys. Gall myfyrwyr hefyd hunan-gyfeirio at y gwasanaeth ASP lle gwneir cynlluniau cymorth unigol; gallai'r rhain gynnwys helpu gyda strwythuro, cynllunio a chynnwys traethodau yn ogystal ag arweiniad am wasanaethau eraill a allai fod yn angenrheidiol (anabledd myfyrwyr, er enghraifft, os amheuir bod anhawster dysgu heb ei nodi).
Yn ogystal, mae llyfrgellwyr pwnc yn cynnig cymorth a chanllawiau gyda chyfeirnodi. Mae'r myfyrwyr yn gwneud sesiwn llyfrgell ym modiwl cyntaf y rhaglen lle maent yn cwrdd â llyfrgellwyr pwnc.