Trosolwg o'r Cwrs
Wrth i dechnoleg, trafnidiaeth ac economi ryngwladol gymhleth wneud ein byd yn llai, mae gwerth cydberthnasau heddychlon a chydweithredol rhwng gwledydd yn fwyfwy pwysig.
Mae cysylltiadau rhyngwladol yn agwedd hanfodol ar ddinasyddiaeth mewn cymdeithas fyd-eang, ac mae'r cwrs gradd pedair blynedd BA Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen yn un o'r rhaglenni gradd pwysicaf a gynigir gennym.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.
Mae'r maes astudio diddorol hwn yn archwilio globaleiddio a sefydliadau byd-eang, datblygu a hawliau dynol, gwleidyddiaeth ryngwladol a rhanbarthol, heddwch a gwrthdaro, economi wleidyddol, astudiaethau diogelwch ac astudiaethau strategol, a byddwch yn dysgu sut mae grym, sefydliadau a chyfreithiau yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd.