Trosolwg o'r Cwrs
Ar ein cwrs gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu a fydd yn eich paratoi i ddilyn gyrfa fel awdur, gan gynnwys nofelau, dramâu, barddoniaeth, sgriptiau ffilmiau ac ysgrifennu ffeithiol.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o arddulliau a genres, yn ogystal ag astudio hanes, traddodiadau a theori Llenyddiaeth Saesneg.
Cewch eich addysgu gan ysgrifenwyr profiadol y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang, yn ogystal â staff academaidd sy'n gydnabyddedig yn rhyngwladol am eu hymchwil.
Gallwch hefyd dreulio semester yn astudio yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr.
Pam Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol yn Abertawe?
Mae pwnc Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, yn y safleoedd canlynol:
- Ymhlith 20 gorau yn y DU (Guardian University Guide 2023)
- Ymhlith 20 gorau yn y DU am Foddhad â'r Cwrs (Guardian University Guide 2023)
- Ymhlith 10 gorau yn y DU am Foddhad Cyffredinol (NSS 2022)
- Ymhlith 10 gorau yn y DU am Ddysgu (NSS 2022)
- Ymhlith 10 gorau yn y DU am Lais Myfyrwyr (NSS 2022)
- Ymhlith 5 gorau yn y DU am Adnoddau Dysgu (NSS 2022)
- Ymhlith 101-150 uchaf yn y byd (QS World Rankings 2023)
- 11eg yn y DU am Effaith Ymchwil (REF 2021)
Abertawe yw man geni Dylan Thomas, un o feirdd telynegol mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif, a byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau gyda Chanolfan Dylan Thomas a National Theatre Wales.
Bydd gennych hefyd opsiwn o dreulio semester yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.
Eich Profiad Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch yn archwilio ystyr bod yn rhan o'r ddynol ryw – gan astudio amrywiaeth o bynciau ym maes y dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol er mwyn cyflwyno astudiaethau ar lefel prifysgol i chi.
Byddwch yn dechrau'r cwrs gradd yn eich ail flwyddyn, pan fyddwch yn gallu teilwra eich gradd yn unol â'ch diddordebau eich hun, gan ddysgu sut i ysgrifennu nofelau, ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, y sgrin a darlledu, ysgrifennu straeon byrion a deunydd ffeithiol, barddoni a dilyn gyrfa ysgrifennu, yn ogystal ag astudio arddulliau a genres.
Mae'r cwrs Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol hefyd yn eich galluogi i astudio amrywiaeth o bynciau Llenyddiaeth Saesneg gan gynnwys ffuglen Gothig a phoblogaidd, rhywedd a diwylliant, llenyddiaeth y Dadeni, llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, ac ysgrifennu cyfoes.
Caiff y cwrs ei addysgu drwy weithdai ysgrifennu creadigol a chewch gyfle i gyflawni prosiect personol mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi.
Cewch eich addysgu gan ysgrifenwyr profiadol sydd ag enw da sefydledig y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang a staff academaidd sy'n gydnabyddedig yn rhyngwladol am eu hymchwil.
Hefyd, bydd gennych fentor academaidd a all roi unrhyw gymorth bugeiliol neu academaidd sydd ei angen arnoch, ac mae Cymdeithas y Myfyrwyr Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau llenyddol, cymdeithasol a diwylliannol.
Cyfleoedd Cyflogaeth Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
Mae dros 97% o'n graddedigion Anrhydedd a Chydanrhydedd Saesneg mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio (97.4% – Dangosydd Perfformiad HESA o arolwg DLHE 2013/14) ac mae Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yn 2il am ragolygon i raddedigion (The Guardian University Guide 2016).
Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn meithrin sgiliau llafar ac ysgrifennu rhagorol a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau mewn amrywiaeth o fformatau, ynghyd â sgiliau ymchwilio, dadansoddi a datrys problemau cadarn.
Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:
- Addysg
- Newyddiaduraeth
- Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
- Gweinyddu prosiectau