Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein cwrs gradd Saesneg a Rhywedd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o rôl allweddol rhywedd ym mywydau menywod a dynion, gan eich helpu i feithrin amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi gwerth arnynt.
Byddwch yn astudio llenyddiaeth sy'n dylanwadu ar y broses ddiwylliannol a chymdeithasol o ffurfio rhywedd, drwy brofiadau a chyfraniadau menywod a dynion i gymdeithas.
Cewch eich addysgu gan ysgrifenwyr profiadol y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang, yn ogystal â staff academaidd sy'n gydnabyddedig yn rhyngwladol am eu hymchwil.
Gallwch hefyd dreulio semester yn astudio yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr.