Trosolwg o'r Cwrs
Gyda'n gradd Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd newydd gyda blwyddyn dramor, gallwch ddysgu dwy iaith, ynghyd â chyfieithu a chyfieithu ar y pryd, sy'n agor drysau i yrfaoedd posib cyffrous ym mhedwar ban byd.
Yn ogystal â datblygu eich sgiliau iaith mewn Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg, byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol i'ch paratoi at ddyfodol ym maes cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd.
Byddwch hefyd yn treulio blwyddyn dramor, yn astudio mewn un o'n sefydliadau partner â rhaglenni cyfieithu a chyfieithu ar y pryd rhagorol. Dyma gyfle cyffrous a gwerthfawr a fydd yn cryfhau eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa.