- Disgrifiad
Sector yn y diwydiant cyllid sy'n esblygu o hyd yw Technoleg Ariannol, neu “FinTech”. Trwy ddenu technolegau aflonyddgar newydd fel deallusrwydd artiffisial, blockchain, a data mawr, mae Technoleg Ariannol yn herio dulliau traddodiadol wrth ddarparu gwasanaethau ariannol. Mae'r diwydiant hwn, sydd ar dwf, yn cyflogi bron cymaint o bobl â'r diwydiant ariannol cyfan yn Llundain (adroddiad swyddi FinTech 2021).
Nod ein rhaglen BSc Cyllid (Technoleg Ariannol) yw rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr o dirwedd Technoleg Ariannol i fyfyrwyr. Mae'r cwrs yn cynnig cwricwlwm manwl ar godio a dadansoddi data, ynghyd â sylfaen gref mewn gwybodaeth ariannol a diwydiannol. Bydd gan raddedigion y rhaglen sgiliau hynod ddeniadol y gellir eu defnyddio mewn diwydiannau amrywiol ledled y byd:
- Dadansoddwr Ariannol
- Ymgynghorydd Ariannol
- Ymgynghorydd Rheoli Cyfoeth neu Fuddsoddi (Asedau Digidol)
- Gweithiwr Bancio Proffesiynol
- Rheolwr Asedau / Cronfeydd
- Rheolwr Risg
- Rheolwr Cynnyrch Technoleg Ariannol
- Rheolwr Datblygu Busnes Technoleg Ariannol
- Rheolwr Cydymffurfiaeth Technoleg Ariannol
Nid oes angen cymhwyster Safon Uwch mewn Busnes, Economeg, Mathemateg na Chyfrifeg/Cyllid.
- Pynciau sy'n Debygol o Gael eu Trafod
Bydd myfyrwyr y rhaglen BSc Cyllid (Technoleg Ariannol) yn cael dealltwriaeth gadarn o gyllid a'r diwydiant ariannol, ochr yn ochr â gwybodaeth arbenigol o'r sector Technoleg Ariannol sy'n esblygu'n gyflym. Byddant yn datblygu sgiliau dadansoddol a meintiol, yn ogystal â hyfedredd mewn codio, dadansoddi data a rheoli a masnachu algorithmig, sy'n hanfodol ar gyfer gweithio yn y sector cyllid sy'n newid yn gyflym. Yn ogystal, byddant yn dysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn deallusrwydd artiffisial, blockchain, data mawr a thechnolegau aflonyddgar eraill sy'n trawsnewid y diwydiant ariannol. Bydd gan raddedigion y rhaglen hon adnoddau da i fynd i'r afael â phroblemau ariannol cymhleth gan ddefnyddio technoleg a bydd galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr yn y sector gwasanaethau ariannol.
Gallwch ymgymryd â Blwyddyn mewn Diwydiant, gyda blwyddyn o leoliad gwaith mewn diwydiant o’ch dewis. Dyma gyfle i ennill profiad o’r diwydiant go iawn, rhwydweithio a chydweithio â meddylwyr y byd busnes a defnyddio eich gwybodaeth ddamcaniaethol yn ymarferol yn y gweithle. Fel arall, gallwch hefyd wella eich cyflogadwyedd gyda'r opsiwn o astudio dramor am flwyddyn.
Gyda chefnogaeth ein tîm Cyflogadwyedd, gallwch benderfynu ar y lleoliad rydych yn ei ffafrio yn ystod eich blwyddyn astudio gyntaf.
Ceir cyfleoedd i astudio ymhellach yn y maes hwn ar lefel Meistr ac Ymchwil hefyd.
- Dyddiad Cychwyn Bwriededig
- Med 24 / Ion 25
Cwblhewch y ffurflen isod fel y gallwn yrru mwy o wybodaeth atoch am y rhaglen radd hon pan ddaw ar gael e.e. modiwlau, ffioedd, dyddiad dechrau ayyb.