Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
  5. Peirianneg Sifil Cyrsiau Israddedig
  6. Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Israddedig
  3. Cyrsiau Israddedig
  4. Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
  5. Peirianneg Sifil Cyrsiau Israddedig
  6. Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Tudalennau cysylltiedig
  • Ein Cyfadrannau
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
      • Peirianneg Awyrofod Cyrsiau Israddedig
      • Peirianneg Sifil Cyrsiau Israddedig
        • Peirianneg Sifil, BEng
        • Peirianneg Sifil, MEng
        • Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng
      • Peirianneg Drydanol Ac Electronig Cyrsiau Israddedig
      • Peirianneg Fecanyddol Cyrsiau Israddedig
      • Peirianneg Gyffredinol Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Clirio
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Cyfres Gweminar Prifysgol Abertawe
Sicrwydd Ansawdd y DU
Ymgeisio

O ble ydych chi'n gwneud cais?

Gwneud cais fel myfyriwr o'r DU neu'r UE?

Dylai pob myfyriwr y DU neu'r UE wneud cais drwy UCAS

Ewch i UCAS

Gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol?

Mae gennym System Gwneud Cais uniongyrchol rhwydd a chyflym i fyfyrwyr rhyngwladol.

Ewch i'r System Gwneud Cais

Gall myfyrwyr rhyngwladol hefyd wneud cais drwy UCAS

Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
foundation teaching room

6ed ar gyfer Rhagolygon Gyrfaoedd

Guardian University Guide 2022

Manylion Allweddol y Cwrs

4 Blynedd Llawn Amser Gyda Sefydliad
Côd UCAS
H205
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
BCC
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 9,000
4 Blynedd Llawn Amser Gyda Sefydliad
Côd UCAS
H205
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
BCC - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2023 £ 21,200
Sicrwydd Ansawdd y DU

Trosolwg o'r Cwrs

Mae peirianwyr sifil yn hanfodol i ddyluniad ein hamgylchedd adeiledig. O bontydd, twneli a systemau trafnidiaeth, i adeiladau, amddiffynfeydd rhag llifogydd a rheoli dŵr, mae eu perfformiad yn hanfodol i gymdeithas fodern.

Mae'r radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi wrth gynllunio a dadansoddi strwythurau peirianneg sifil.

Gall y rhaglen Flwyddyn Sylfaen Peirianneg integredig arwain at unrhyw radd peirianneg lawn. Nid yw'n gymhwyster ynddo'i hun, ond blwyddyn gyntaf gradd BEng pedair blynedd.

Byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau cymhleth, yn gallu gallu braslunio a modelu atebion peirianneg a dod yn gwbl gyfforddus wrth baratoi adroddiadau technegol.

Wrth i chi symud ymlaen, bydd eich galluoedd dadansoddol datblygol yn cyfuno â phrofiad ymarferol o'r offer diweddaraf, gan sefydlu sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant peirianneg sifil ehangach.

Pam Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Mae gan bwnc Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn ac mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd. 

A wyddoch chi?

  • 10fed safle yn y DU ar gyfer Ymchwil yn The Times Good University Guide 2022
  • 6ed ar gyfer Rhagolygon Gyrfaoedd yn Guardian University Guide 2022
  • O fewn chwe mis i raddio, mae 97% o raddedigion Peirianneg Sifil yn gyflogedig neu'n ymgymryd ag astudiaethau pellach (DHLE 2016/17)
  • amgylchedd o 100% sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FRY) 2021

Mae llwybr gradd strwythuredig hyblyg yn golygu bod gennych chi'r cyfle i astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn.

Cynigir detholiad o fodiwlau dewisol yn y blynyddoedd astudio diweddarach, gan helpu i alinio'r radd â'ch diddordebau yn agos.

Eich Profiad Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen

Wrth i'r holl fyfyrwyr Blwyddyn Sylfaen Peirianneg astudio'r holl fodiwlau, mae cydberthynas dda ymhlith myfyrwyr sy'n creu awyrgylch astudiaeth gyfeillgar a chefnogol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae graddedigion Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd ysgogol yn y dyfodol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol.

  • Syrfëwr Rheoli Adeiladau
  • Peiriannydd Strwythurol
  • Cynllunydd Tref
  • Peiriannydd Gwasanaethau Adeiladu
  • Daearegydd Peirianyddol
  • Ymgynghorydd Amgylcheddol
  • Syrfëwr Meintiau

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws Israddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Cynigion wedi'u gwarantu*

Astudio trwy'r Gymraeg

welsh medium

Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol

Dau fyfyriwr wrth gyfrifiadur

Modiwlau

Mae'r rhaglen Blwyddyn Sylfaen integredig Peirianneg yn un gyffredin sy'n arwain at unrhyw un o'n canghennau peirianneg. Nid yw'n gymhwyster annibynnol, ond mae'n flwyddyn gyntaf gradd BEng 4 blynedd.

Blwyddyn 0 (Lefel 3)

Entry Level 3 / Foundation Year
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Fundamentals of Engineering Design Academic Year30EG-000
Foundation Mathematics for Engineers ISeptember-January15EG-001
Chemistry of Materials September-January15EG-091
Fundamentals of Engineering Science September-January15EG-092
Foundation Mathematics for Engineers IIJanuary-June15EG-002
Applied EngineeringJanuary-June30EG-003

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

FHEQ 4 Undergraduate / HECert
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Introduction to Civil Engineering Materials September-January10EG-112
Engineering Mathematics 1 (Aero & Civil) September-January10EG-113
Engineering for People HackathonSeptember-January10EG-133
Critical thinking and maths-based problem solving for EngineersSeptember-January10EG-139
Conceptual Design and Analysis PracticeSeptember-June30EG-154
Engineering Mechanics (Aero & Civil) September-January10EG-166
Engineering Mathematics 2 (Aero & Civil) January-June10EG-115
Strength of Materials (Aero & Civil)January-June10EG-120
Surveying and Introductory Highways Design January-June10EG-121
Fluid Mechanics IJanuary-June10EGA117

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

FHEQ 5 Undergraduate / HEDip
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Statistical Methods in EngineeringSeptember-January10EG-219
Structural Mechanics IIaSeptember-January10EG-221
Basic Soil MechanicsSeptember-January10EG-223
Problem Solving in Engineering with MatlabSeptember-January10EG-228
Civil Engineering Management September-January10EG-234
Civil Engineering Design and Practice 1September-June30EG-258
Research Project Preparation September-June0EG-277
Fluid Mechanics IIJanuary-June10EG-201
Structural Mechanics IIbJanuary-June10EG-225
Dynamics 1 (Med & Civil)January-June10EG-235
Introductory Geology for EngineersJanuary-June10GEL200

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

FHEQ 6 Undergraduate / Honours
Modiwlau Gorfodol
Enw'r ModiwlHyd y ModiwlCredydauCod y Modiwl
Finite Elements for Civil Engineers September-January10EG-3067
GeomechanicsSeptember-January10EG-321
Superstructure DesignSeptember-January10EG-328
Hydrology and Unsteady FlowSeptember-January10EG-329
Research ProjectSeptember-June30EG-353
Coastal processes and engineeringSeptember-January10EGA331
Civil Engineering Design Practice and Management IIJanuary-June20EG-3065
Structural Mechanics IIIJanuary-June10EG-320
Engineering of FoundationJanuary-June10EG-326

Gofynion Mynediad

Mature students with relevant work experience, or access courses with a good mathematical and science content, are also considered for this scheme; an interview may be required.

Rydym yn derbyn myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd i'r Flwyddyn Sylfaenol Peirianneg. Caiff pob cais ei ystyried yn unigol, gan ddibynnu ar gefndir addysgol a phrofiad gwaith yr ymgeisydd.

Ein cynnig safonol i fyfyrwyr sy'n astudio Safon Uwch neu'r Fagloriaeth Ryngwladol yw Safon Uwch BCC neu Fagloriaeth 26.

Gall myfyrwyr sy’n astudio BTEC neu gymwysterau galwedigaethol arall wneud cais am y cwrs hwn os nad oes ganddynt y cefndir Mathemategol angenrheidiol ar gyfer mynediad Blwyddyn 1. Gofynion Mynediad BTEC yw DDD – DDM gyda D ym mhob modiwl Mathemateg.

Disgwylir i bob ymgeisydd fod â TGAU (neu gymhwyster cyfwerth) ym Mathemateg a'r holl Wyddorau ar radd B neu'n well, yn cynnwys o leiaf dwy radd A.

Ystyrir myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad gwaith perthnasol, neu sydd wedi cwblhau cwrs mynediad gyda chynnwys da o ran mathemateg a gwyddoniaeth hefyd; er efallai y bydd angen cyfweliad.

 

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.

Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.

Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.

Darpariaeth Gymraeg

Rhywfaint o ddarpariaeth

Darperir rhai elfennau o'r cwrs hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn.

Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi trwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Mynediad at ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mynediad at fodiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn Gymraeg.
  • Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Lawrlwythwch yr ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
  • Cyfle am gyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
  • Cyfle i dderbyn gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
  • Cyfle i ysgrifennu a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os ydych chi wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd eich gwaith yn cael ei farcio yn Gymraeg.
  • Mentor Academaidd Cymraeg ei iaith.
  • Cefnogaeth un i un i wella eich sgiliau Cymraeg academaidd.
  • Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o'ch gallu yn yr iaith Gymraeg i gyflogwyr.
  • Cyfle i fod yn aelod o Gangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
  • Cyfle i gyfrannu at weithgaredd a bywiogrwydd cymuned Gymraeg y Brifysgol ac ennill Gwobr Academi Hywel Teifi

I ddysgu mwy am yr uchod ac am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i dudalennau israddedig Academi Hywel Teifi

Achrediad Corff Proffesiynol

Os ydych yn astudio ar y flwyddyn sylfaen, peidiwch ag ofni na fydd gennych radd peirianneg achrededig. Nid oes raid i chi boeni. Achredir y cyrsiau gan ystod o sefydliadau proffesiynol. Mae'r Corff Proffesiynol sy'n achredu'ch cwrs yn dibynnu ar ba gwrs y byddwch yn ei ddewis.

Mae'r gwahanol gyrff sy'n achredu cyrsiau'n cynnwys y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, Sefydliad y Peirianwyr Cemegol, a'r Gymdeithas Awyrenneg Frenhinol.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Bydd y staff academaidd canlynol yn addysgu ar flwyddyn Sylfaen eich gradd Peirianneg:

  • Dr Enrico Andreoli
  • Professor Cris Arnold
  • Dr Cecile Charbonneau
  • Dr Karin Ennser
  • Dr Anthony Higgins
  • Dr Chengyuan Wang
  • Dr Alison Williams
  • Professor Geraint Williams
  • Dr Natalie Wint

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. Rhyngwladol
Medi 2022 £ 9,000 £ 20,200
Medi 2023 £ 9,000 £ 21,200

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr UE/Rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Nid yw'r ffioedd dysgu yn cwmpasu costau a dynnir yn bersonol gan y myfyriwr, megis prynu llyfrau neu gostau papur, argraffu neu gopïo.

Bydd angen i fyfyrwyr ar y cwrs hwn gwrdd â chostau'r eitem isod:

  • Pâr o esgidiau diogelwch ar gyfer ymweliadau safle diwydiannol - cost o £25
  • Cyfraniad trip preswyl - cost o £30

Mae gwerslyfrau a argymhellir ar gyfer y cwrs hwn ar gael yn y llyfrgell. Mae'r holl feddalwedd sydd ei angen ar gyfer y cwrs ar gael ar y rhwydwaith Peirianneg, i'w ddefnyddio yn ein hystafelloedd PC ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae mynediad di-wifr i'r rhyngrwyd ar gael ar draws campws a neuaddau preswyl y Brifysgol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Rydym yn falch iawn o ragolygon gyrfa rhagorol ein graddedigion Peirianneg.

Rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella cyflogadwyedd ein myfyrwyr, trwy feithrin perthynas gref â chyflogwyr graddedig a thrwy sicrhau bod ein myfyrwyr mor barod ag y gallant fod ar gyfer byd gwaith. Dysgwch fwy am ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae darparu'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr yn hollbwysig i ni , ac mae gennym systemau a staff cefnogi ar waith er mwyn hwyluso hyn. Mae gennym ni Gaffi rheolaidd ar gyfer Mathemateg, Cemeg a Meddalwedd i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau. Dysgwch fwy am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr.

Cyfleoedd Astudio Tramor a Byd-eang

I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global. Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor.

Mae rhaglenni rhyngwladol yr haf ar agor i fyfyrwyr o bob coleg. Fel arfer, mae rhaglenni'n para o 2 i 6 wythnos, ar draws cyrchfannau megis Tsieina, Sambia, De Corea, Siapan, Canada a ledled Ewrop. Am ragor o wybodaeth ynghylch rhaglenni a chymhwysedd, ewch i'n tudalennau gwe Haf Dramor.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr - myfyrwyr y DU, UE a rhyngwladol.

Cewch wybod mwy drwy ymweld â'n tudalen ar sut i wneud cais

Dyddiadau Cau Ymgeisio

Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cais.

Cyfarfod â'n cyn-fyfyrwyr George Lance

Ar hyn o bryd rydw i'n Beiriannydd Cynorthwyol gydag Atkins. Rwy'n gweithio gyda thimoedd amlddisgyblaethol ar draws y DU ac India i helpu i ddarparu amrywiaeth o gynlluniau newydd a chynlluniau gwella priffyrdd.

Roedd y modiwlau cysylltiedig â diwydiant oedd yn cael eu haddysgu fel rhan o'r cwrs yn wych i’m paratoi  ar gyfer y ffordd y mae prosiectau'n gweithio yn y byd go iawn.

Roedd y prosiect grŵp yn ystod fy mlwyddyn MEng yn enwedig yn brofiad da iawn, ac roedd y cyfle i weithi gyda phobl broffesiynol mewn diwydiant yn ymarfer gwych ar gyfer y byd ar ôl graddio.

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen

  • Ein Cyfadrannau
  • Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig r Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Peirianneg Gyffredinol a Mecanyddol
      • Peirianneg Awyrofod Cyrsiau Israddedig
      • Peirianneg Sifil Cyrsiau Israddedig
        • Peirianneg Sifil, BEng
        • Peirianneg Sifil, MEng
        • Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng
      • Peirianneg Drydanol Ac Electronig Cyrsiau Israddedig
      • Peirianneg Fecanyddol Cyrsiau Israddedig
      • Peirianneg Gyffredinol Cyrsiau Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol
    • Cyrsiau Israddedig Iechyd a Gofal Cymdeithasol
    • Cyrsiau Israddedig y Gyfraith
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Israddedig yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
    • Cyrsiau Meddygaeth Israddedig
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol Seicoleg
    • Cyrsiau Israddedig Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
    • Cyrsiau Is-raddedig yn dod yn fuan!
    • Gofynion mynediad
  • Cysylltu â'r tîm derbyn israddedig
  • Diwrnodau Agored Israddedig
  • Llety
  • Sut i wneud cais am gwrs israddedig
  • Clirio
  • Chwaraeon
  • Bywyd Myfyriwr
  • Ffioedd a Chyllid
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
  • Rhithdaith
  • Gwybodaeth i Rieni a Gwarcheidwaid
  • Prosbectws Israddedig
  • Pam Astudio yn Abertawe?
  • Beth yw UCAS Extra? Eich canllaw cynhwysfawr
  • Newidiadau rhaglen israddedig
  • Athrawon ac Ymgynghorwyr
  • Cyfres Gweminar Prifysgol Abertawe
Ymgeisio Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni Sgwrsiwch â Myfyriwr Cyfredol
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342