Canllaw Cyflym i Nyrsio

Clirio Nyrsio
Cofrestrwch am ddiweddariadau ClirioPan fyddwch yn astudio Gradd Nyrsio gyda ni, byddwch yn rhan o gymuned sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ni fwy na 25 mlynedd o brofiad o hyfforddi pobl ar draws lled ymarfer clinigol, ac rydym ni'n falch o fod yn un o'r 10 rhaglen Nyrsio orau yn y DU (Guardian University Guide 2022). Mae ein hymagwedd sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr wedi gwneud profiad a chanlyniadau myfyrwyr yn flaenoriaethau ac mae ein safleoedd a'n hadborth yn adlewyrchu hyn.
Mae gennym enw neilltuol am nyrsio ac rydym ni:
- 4ydd yn y DU am Foddhad Cyffredinol Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2021: Nyrsio Plant)
- 9fed yn y DU am Nyrsio (Guardian University Guide 2022)
- 10 uchaf yn y DU am Nyrsio ac yn 1af yn Rhagolygon Graddedigion y DU (The Complete University Guide 2023).
Rydym hefyd yn 25 Prifysgol orau yn y DU ac yn y 6ed safle yn y DU am foddhad myfyrwyr (Guardian University Guide 2022).
Profiad Myfyrwyr Nyrsio
Yn ôl ein myfyrwyr, ni yw'r 4fedd lle gorau i astudio nyrsio plant (Boddhad Myfyrwyr, Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2021). Rydym ni'n frwdfrydig am nyrsio ac yn mabwysiadu'n llawn y gwerthoedd craidd sy'n gysylltiedig â'r 'proffesiwn gofal' ac rydym yn ymdrechu i wreiddio'r gwerthoedd hyn yn ein myfyrwyr a'n perthnasoedd â nhw. Rydym yn cynnig cymhareb staff-myfyrwyr gwych (yn y 7fed safle yn y DU gan y Guardian University Guide 2022), sy'n golygu y byddwch yn cael eich cefnogi'n dda gan gyfoeth o fodelau rôl gwybodus drwy gydol eich amser yn astudio gyda ni.
Peidiwch â derbyn ein gair ni am hyn. Beth am glywed yr hyn mae ein myfyrwyr Nyrsio yn ei feddwl am astudio nyrsio gyda ni, ac archwilio'r holl opsiynau a chyfleoedd gwahanol a fydd ar gael i chi pan fyddwch chi'n astudio gyda ni.
Nyrsio Oedolion
Mae Nicholas Costello yn siarad â ni am ei brofiad o astudio Nyrsio i Oedolion yn Abertawe a sut "nad oes unrhyw beth gwell na'r teimlad a gewch chi wrth helpu rhywun mewn angen."
Nyrsio Plant
Mae Daniel Roberts ac Emily Nue yn astudio Nyrsio Plant yn Abertawe. Yma, maent yn trafod y sgiliau amrywiol y mae eu hangen arnoch er mwyn siarad â baban neu blentyn un funud, ac oedolion y funud nesaf.
Nyrsio Iechyd Meddwl
Mae defnyddio ei phrofiad bywyd hi wedi helpu Rachel Huggins i ddysgu i gefnogi eraill a bod y nyrs orau y gall fod. Mae Rachel yn ei thrydedd flwyddyn fel Nyrs Iechyd Meddwl.
Graddau a Gyllidir yn Llawn
Gallai dewis i ddilyn eich brwdfrydedd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed. Mae hamrywiaeth hwn o raddau wedi'u hariannu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.
Golyga hyn os byddwch chi'n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich ffioedd addysgu yn cael eu talu'n llawn gan Fwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad ar gyfradd ostyngedig gan Gyllid Myfyrwyr.
Rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth GIG CymruCyfleusterau O'r Radd Flaenaf
Rydym yn sicrhau bod gan ein myfyrwyr y cyfleusterau gorau posib ar gyfer hyfforddi fel y gallant datblygu eu sgiliau clinigol a bod yn barod am ymarfer clinigol. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol i'n rhaglenni ac rydym ni'n ail-greu amgylcheddau sydd mor debyg â phosib i'r amgylchedd clinigol y byddwch chi'n gweithio ynddo.
Ewch ar daith rithwir99% Cyflogadwyedd
Pan fyddwch yn graddio, byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am statws Nyrs Gofrestredig (Oedolion) gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chofrestru fel nyrs i weithio yn yr UE ac AEE. Mae rhagolygon swyddi yn rhagorol, ac mae 99% o'n graddedigion nyrsio mewn cyflogaeth mewn swydd broffesiynol neu reoli o fewn 6 mis (Astudiaeth o Ymadawyr Addysg Uwch, 2018). Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £24,214, sy'n codi i £43,772 am nyrs staffio profiadol. Gall nyrsys arbenigol a rheolwyr ymarfer ennill £45,000.
Ein hopsiynau Cwrs Nyrsio
Mae ein cyrsiau Nyrsio Oedolion yn dod â staff academaidd o nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol cymwys ynghyd. Wrth i chi hyfforddi i ddod yn nyrs oedolion arbenigol, byddwch yn elwa o'n cysylltiadau cryf â byrddau iechyd lleol, a'n hystafelloedd hyfforddiant clinigol realistig rhagorol sy'n cynnwys realiti rhithwir integredig.
Ein Hopsiynau Cwrs Nyrsio Oedolion:
Wrth astudio Nyrsio Plant yn Abertawe, byddwch yn cael eich hyfforddi gan amrywiaeth o glinigwyr arbenigol a fydd yn amrywio o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Fel myfyriwr, byddwch yn elwa o'n hystafelloedd realiti rhithwir a sgiliau clinigol gan roi'r hyfforddiant a'r sgiliau i ymateb i sefyllfaoedd bywyd go iawn ar leoliad neu wrth gymhwyso.
Ein Hopsiynau Cwrs Nyrsio Plant:

Mae Nyrsio Anableddau Dysgu'n defnyddio ystod o strategaethau dysgu ac addysgu sy'n eich galluogi chi i ddechrau ar yrfa lwyddiannus a gwobrwyol fel Nyrs Anableddau Dysgu arbenigol. Byddwn yn rhannu ein hystafelloedd sgiliau clinigol o'r radd flaenaf a fydd yn cynnwys y cyfleuster hyfforddiant realiti rhithwir mwyaf yn Ewrop. Byddwch yn elwa o wybodaeth a sgiliau gan amrywiaeth eang o glinigwyr gan gynnwys nyrsys, meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Ein Hopsiynau Nyrsio Anableddau Dysgu:
Bydd ein gradd Nyrsio Iechyd Meddwl yn eich arfogi â'r sgiliau a'r profiadau sy'n eich galluogi chi i drin a rhyngweithio'n llwyddiannus â chleifion ar leoliadau neu wrth gymhwyso. Byddwch yn ennill y sgiliau hyn drwy staff addysgu cymwys a phrofiadol ac yn ein labordai sgiliau clinigol o'r radd flaenaf a'n cyfleusterau hyfforddiant realiti rhithwir.