Dod yn Bydwraig

Diwrnodau Agored Israddedig
Cofrestrwch NawrEnillwch y sgiliau a'r profiad i lansio gyrfa werth chweil a gwerthfawr fel bydwraig gyda'n cwrs gradd Bydwreigiaeth o fri, a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae gennym enw da rhagorol am Fydwreigiaeth ac rydym yn 9fed yn y DU (Canllaw Prifysgol Guardian 2022). Mae rhagolygon swydd yn rhagorol, gyda 100 y cant o'n graddedigion Bydwreigiaeth yn cael eu cyflogi mewn swydd broffesiynol neu reoli o fewn chwe mis (DLHE 2018).
Gwerthfawrogir ein cymhwyster Bydwreigiaeth yn rhyngwladol, gan roi'r potensial i chi ddatblygu eich gyrfa dramor mewn gwledydd gan gynnwys Awstralia, Canada a Seland Newydd.
CYFRES NEWYDDION CYFOES
Archebwch le ar ein Gweminar Newyddion Cyfredol isod i gael rhagflas o'n cwrs, darganfod yr ymchwil diweddaraf yn Abertawe a chael atebion i'ch cwestiynau.
Ein Straeon myfyrwyr
100% Cyflogadwyedd i Fydwreigiaeth Graddedig
Yn ôl ein data graddedigion diweddaraf, mae 100% o’n graddedigion Bydwreigiaeth mewn cyflogaeth, astudiaeth bellach neu’n teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA2022). Rydym yn cynnig cyfleoedd dysgu rhagorol, addysgu, a chefnogaeth academaidd.
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe - o ofynion mynediad i gyfleoedd lleoliad, i ragolygon graddedigion.
Graddau a Gyllidir yn Llawn
Gallai dewis i ddilyn eich brwdfrydedd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed. Mae hamrywiaeth hwn o raddau wedi'u hariannu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.
Golyga hyn os byddwch chi'n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich ffioedd addysgu yn cael eu talu'n llawn gan Fwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad ar gyfradd ostyngedig gan Gyllid Myfyrwyr.
Rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth GIG CymruAm wybod mwy?
Mae gennym ni gymaint mwy rydyn ni eisiau ei rannu gyda chi, beth am archwilio ein tudalen cwrs Bydwreigiaeth neu archebu lle ar ein diwrnod agored nesaf.
Am Ddarganfod Mwy am Abertawe
Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y GIG? Treuliwch yr amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein rhith-daith, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr cyfredol am sut brofiad yw astudio yn Abertawe a sicrhewch eich bod chi'n cofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf lle gallwch, yn bersonol, brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau.