Gyrfaoedd GIG

Ein GIG, Ein Habertawe, Eich Dyfodol
Cofrestrwch am ddiweddariadau ClirioRydym yn arwain y ffordd wrth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a Gofal Iechyd. Am bron i dri degawd rydym wedi bod ar flaen y gad wrth hyfforddi gweithlu yfory ar gyfer y GIG. P'un a ydych am ddod yn Wyddonydd Gofal Iechyd, â diddordeb mewn dod yn Feddyg, Nyrs neu Fydwraig yn Abertawe, mae dull arloesol ac ymroddiad i wella darpariaeth gofal iechyd yn ein gwneud yn fan delfrydol ar gyfer y cam cyntaf ar eich gyrfa i ddatblygu'r GIG a gofal iechyd ar gyfer ein anghenion i'r dyfodol.
Cofrestrwch nawr - Diwrnodau AgoredDewch yn …
Os na fedrwch aros am ein sgyrsiau Arddangosfa Gyrfaoedd Clinigol, mae ein Canllawiau Cyflym wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i archwilio'r cyrsiau y tu ôl i bob gyrfa gydag atebion i gwestiynau cyffredin y mae llawer o ymgeiswyr yn eu gofyn i'ch helpu chi i ddeall mwy am y gyrfaoedd hyn, beth mae'n ei gymryd i gyrraedd yno a pha ddrysau a allai fod ar agor i chi wedi i chi gymhwyso.
Am Ddarganfod Mwy am Abertawe
Ydych chi’n cael eich ysbrydoli i hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y GIG? Treuliwch yr amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein rhith-daith, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr cyfredol am sut brofiad yw astudio yn Abertawe a sicrhewch eich bod chi'n cofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf lle gallwch, yn bersonol, brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau.