Croeso i Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe, yr Ŵyl Fwyaf o'i math yng Nghymru!
Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn dychwelyd yn fyw rhwng 31 Hydref a 6 Tachwedd!
Ymunwch â ni a gwesteion arbennig ar gyfer ystod eang o sioeau, sgyrsiau a gweithdai ynghyd â llawer o stondinau rhyngweithiol am ddim i fynd â'ch meddyliau ar daith ddarganfod!
Paratowch i gael eich rhyfeddu gan ein sioe Swigod Syfrdanol neu ymunwch â'r hwyl a'r sbri ac ambell bop yn y Sioe Balwnau Gwyddoniaeth. Bydd cyfle i weld ein gwesteion o Plantasia a'u ffrindiau arbennig gwyllt. Os mai archwilio'r gofod sy'n mynd â'ch bryd chi, ymunwch â Brainiacs Live yn yr Academi Gofodwyr, neu'r Theatr Wyddoniaeth ar gyfer gweithdy o'r Lleuad i Fawrth.
Rydym yn gyffro i gyd wrth groesawu Gweilch yn y Gymuned, Sefydliad Pêl-droed Dinas Abertawe ein Gwyddonwyr Chwaraeon ein hunain a mwy i'ch rhoi ar ben ffordd yn yr Ardal Chwaraeon gyntaf erioed yn yr LC.
Byddwn hefyd cael amser anhygoel gyda'r cadwraethwr a'r cyflwynydd teledu Chris Packham wrth iddo fynd â ni ar daith wyllt i ymyl y byd ac yn ôl.
Archwiliwch ein holl ddigwyddiadau ac archebwch eich lle isod!
Packham
Academy
Science
Tricks
Porwch ein map rhyngweithiol isod ac ymwelwch â'r gwahanol barthau i ddarganfod yr holl bethau cyffrous sydd ar gael!