Two students using exercise testing equipment

Ein cartref ar Gampws y Bae

Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol campws deuol, gyda chartref yr adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar Gampws y Bae.

Mae'r prif gyfleusterau chwaraeon ar gyfer holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe wedi'u lleoli ar safle Parc Chwaraeon Bae Abertawe wrth ymyl Campws Parc Singleton.

Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe y Brifysgol yn gartref i nifer o gyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys pyllau nofio 50m a 25m, meysydd chwarae, cyfleusterau athletau dan do ac awyr agored, campfa amlbwrpas y Brifysgol, stiwdios ffitrwydd a chyrtiau sboncen a thennis.

Ewch ar Daith Rhithwir

Labordy ffisioleg ymarfer corff

Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff

Defnyddir Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff i fesur ym maes ffisioleg gymhwysol Mae'n darparu amgylchedd dysgu seiliedig ar brofiad o ansawdd uchel ar gyfer modiwlau sy'n ymwneud â ffisioleg.

Mae gan y Labordy Ymchwil y cyfleusterau canlynol:

  • Amrywiaeth o ergomedrau ymarfer corff (e.e. peiriannau rhedeg, beiciau, peiriannau rhwyfo, cranciau breichiau, offer isoginetig)
  • Amrywiaeth o dechnegau i ddadansoddi cyfansoddiad y corff, gan gynnwys y BodPod, dadansoddi rhwystriant biodrydanol, dadansoddi agos at is-goch a phwyso hydrostatig
  • Amrywiaeth o dechnegau mesur anthropometrig
  • Dadansoddi nwy allanadledig wrth gerdded ac mewn labordy, dadansoddi electrocardiograffig a haemodynamig
  • Asesu a dadansoddi gweithrediad yr ysgyfaint
  • Profi gweithrediad cyhyrau gan ddefnyddio dynamometreg isoginetig amlgymal, llwyfannau grym a System Fesur Falistig
  • Amrywiaeth o gyfarpar dadansoddi gwaed ar gyfer mesur metabolion, proteinau penodol a hormonau

Labordy Biomecaneg

Labordy Biomecaneg

Cartref i system dadansoddi symudiadau o'r radd flaenaf.

Gan ddefnyddio cyfleusterau'r labordy, gallwn gynnal dadansoddiad cinematig llawn o amrywiaeth o symudiadau cymhleth.

Mae'r gwaith ymchwil presennol yn cynnwys:

  • Dadansoddiad biomecanyddol o ddechrau cystadleuaeth nofio
  • Cinemateg y pen-glin sy'n gysylltiedig ag anaf ACL
  • Monitro blinder ac anafiadau drwy ysgogi magnetig a mesur ymateb EMG
  • Cyfarwyddiadau i gleifion orthopedig ar roi pwysau ar ran arbennig o'r corff ar ôl cael llawdriniaeth

Cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf

Mae gan Brifysgol Abertawe bentref chwaraeon £20m ar safle Parc Chwaraeon Bae Abertawe, gerllaw Campws Parc Singleton, sy'n cynnwys y canlynol:

  • Canolfan Chwaraeon – campfa fodern ag 80 o beiriannau, neuadd chwaraeon, wal ddringo, cyrtiau sboncen
  • Canolfan Athletau Dan Do – trac rhedeg 60m â 6 lôn, pwll neidio, naid uchel, naid bolyn, cawell daflu a rhwyd gwaywffon
  • Pwll Cenedlaethol Cymru – pyllau nofio 50m a 25m
  • Cyfleusterau Awyr Agored – caeau rygbi a phêl-droed, cyrtiau tennis i'w defnyddio ym mhob tywydd, caeau pob tywydd sy'n cael eu dyfrio, trac rhedeg ag 8 lôn
  • Undeb Athletig Gweithgar – mwy na 40 o Dîmau Chwaraeon sy'n cystadlu ledled y DU

Dysgwch fwy ar wefan Parc Chwaraeon Bae Abertawe y Brifysgol.

Aerial image of Swansea Bay Sports Park