Tsieina a Sbaen
Mae gan lawer o ymchwilwyr yn y ganolfan drefniadau cydweithio unigol â sefydliadau amrywiol ledled y byd.
Er bod gan y ganolfan gysylltiadau cryf â Brasil, India, Rwsia, De Affrica, UDA a llawer o wledydd eraill, caiff dau o'r cysylltiadau ymchwil sefydledig eu hegluro isod.
Tsieina
Mae gan Ganolfan Zienkiewicz gysylltiadau ymchwil cryf â Phrifysgol Tsinghua, sef y brifysgol orau yn Tsieina. Mae partneriaeth ymchwil strategol ar gyfer y maes peirianneg gyfrifiadurol yn gyffredinol wedi cael ei sefydlu rhwng y ddau sefydliad, ar ôl gwaith hyrwyddo gan Dr Chenfeng Li yng Nghanolfan Zienkiewicz a'r Athro Song Cen yn Ysgol Awyrofod Tsinghua. Dechreuodd gwaith ymchwil Canolfan Zienkiewicz ar y cyd â Tsieina yn 2002 ac ers hynny, mae dros 20 o academyddion o'r ddwy wlad wedi cymryd rhan.
Mae partneriaeth Abertawe-Tsinghua yn trefnu gweithdy mewn mecaneg gyfrifiadurol a pheirianneg gyfrifiadurol bob dwy flynedd, a chynhaliwyd y gweithdy cyntaf ar y cyd yn Beijing ym mis Gorffennaf 2011 a chynhaliwyd yr ail un yn Abertawe ym mis Gorffennaf 2013.
Mae partneriaeth peirianneg gyfrifiadurol Abertawe-Tsinghua yn amlddimensiwn, a chaiff ei hwyluso gan amrywiaeth o weithgareddau ar y cyd, o ymweliadau academaidd dwyffordd rheolaidd a chyfnewid myfyrwyr PhD i grantiau ymchwil ar y cyd a ariennir gan yr Academi Beirianneg Genedlaethol, y British Council, FP7 yr Undeb Ewropeaidd, Sefydliad Gwyddor Naturiol Cenedlaethol Tsieina a Chyngor Ysgoloriaethau Tsieina.
Ers 2007, mae'r cydweithio strategol hwn wedi arwain at dros 20 o gyd-gyhoeddiadau mewn cyfnodolion rhyngwladol blaenllaw. Ar ôl cael ei enwebu gan yr Athro Chuhan Zhang ym Mhrifysgol Tsinghua, cafodd yr Athro Roger J Owen (FRS, FREng) o Ganolfan Zienkiewicz ei ethol i Academi Gwyddoniaeth Tsieina yn 2011, sef y gydnabyddiaeth academaidd uchaf yn Tsieina.
Mae Canolfan Zienkiewicz hefyd yn cydweithio'n agos â nifer o grwpiau ymchwil blaenllaw eraill yn Tsieina, gan gynnwys grwpiau o Brifysgol Peking, Prifysgol Zhejiang, Prifysgol Beihang a Phrifysgol Shanghai Jiaotong.
Sbaen
Cyd-raglenni hyfforddiant ôl-raddedig rhyngwladol rhwng Canolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadurol (ZCCE) ym Mhrifysgol Abertawe a'r Universitat Politècnica de Catalunya (UPC) a gaiff eu cydlynu gan Dr Antonio J Gil a Dr R Sevilla.
Mae cyd-raglenni hyfforddiant ôl-raddedig rhyngwladol rhwng ein Canolfan a'r UPC yn dyddio'n ôl i 2007, pan gafodd arian Ewropeaidd ei ddyfarnu i sefydlu Cwrs Meistr Erasmus Mundus (EMMC) mewn Mecaneg Gyfrifiadurol.
Gan adeiladu ar hyn, ffurfiodd Prifysgol Abertawe a'r UPC bartneriaeth lwyddiannus â sefydliadau Ewropeaidd blaenllaw eraill ac yn 2009, dyfarnwyd "Uwch-dechnegau mewn Mecaneg Gyfrifiadurol" Rhwydwaith Hyfforddiant Ewrop i'r grŵp hwn er mwyn hyfforddi ymchwilwyr newydd yn y maes gwyddoniaeth hwn. Ar ôl hynny, yn 2012, cafodd Prifysgol Abertawe a'r UPC ragor o gyllid cystadleuol i adnewyddu'r EMMC a chyflwyno Cyd-Ddoethuriaeth Erasmus Mundus newydd o'r enw “Efelychu mewn Peirianneg a Datblygu Entrepreneuriaeth”, a gaiff ei hystyried yn un o brif raglenni hyfforddiant PhD Ewrop.
Mae'r holl raglenni hyn, sy'n werth tua 10M Ewro, wedi hwyluso ac atgyfnerthu'r gwaith ymchwil ar y cyd rhwng academyddion y ddau sefydliad hyn, drwy oruchwylio rhai myfyrwyr galluog iawn. Dros y blynyddoedd, mae mwy na 130 o fyfyrwyr ôl-raddedig wedi cwblhau cynlluniau astudio ac wedi cael swyddi ymchwil a datblygu mewn diwydiant yn Ewrop neu wedi cael swyddi yn y byd academaidd.