Fel arfer, adolygir ceisiadau a gyflwynir i bwyllgor moeseg y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ymhen chwe wythnos. Mae’r pwyllgor yn gwneud pob ymdrech i ddychwelyd cais cyn gynted â phosib ac anogir adolygwyr i adolygu ceisiadau o fewn pythefnos.
Unwaith y caiff cais ei gymeradwyo, rhoddir rhif cymeradwyo i chi mewn e-bost awtomatig a byddwch chi’n gallu cychwyn ar eich gwaith. Os nad yw’n cael ei gymeradwyo, byddwch chi’n cael eich gwahodd i ailgyflwyno’r cais ar ôl i chi ymdrin â’r pryderon moesegol a godir gan y pwyllgor.
Byddwch chi’n derbyn e-bost pan fydd yr adolygiad wedi’i gwblhau.