Bwriad yr wybodaeth hon yw helpu i gadw offerynnau a chelfi'r ystafelloedd hyn mewn cyflwr da ac i wneud y gorau o'r manteision a'r mwynhad i bawb sy'n eu defnyddio.
Gwybodaeth gyffredinol:
• Mae pedair ystafell ymarfer ar gael ar Gampws y Bae, ac mae piano unionsyth ym mhob un.
• Maent yn yr un adeilad â'r gampfa a'r neuadd chwaraeon. Mae'r drws yn iard yr adeilad, ger mynedfa'r gampfa.
• Mae tair ystafell ymarfer cerddoriaeth ar Gampws Parc Singleton, pob un yn cynnwys o leiaf un piano unionsyth ac un yn cynnwys Yamaha Clavinova hefyd
• Mae'r rhain ar lawr uchaf Tŷ Fulton y tu ôl i ddarlithfeydd A, B ac C.
• Mae'r ystafelloedd ymarfer ar gael ar Gampws Parc Singleton o 9am tan 10pm bob dydd. Ar Gampws y Bae, maent ar gael rhwng 9am a 6pm.
• Gallwch archebu'r ystafell am uchafswm o 3 awr ar y tro
• Ceir mynediad â cherdyn myfyriwr/staff: i gael mynediad trwy gerdyn, e-bostiwch roombookings@abertawe.ac.uk a byddwch yn cael gwybod pan fydd eich cerdyn wedi'i actifadu.
• Ar hyn o bryd, nid oes toiledau ar gael ger yr ystafelloedd ymarfer. Mae toiledau ar gael mewn mannau eraill ar y campws, fodd bynnag.