Ddarlith Nodedig David Olive
Yr Athro DAVID OLIVE, CBE, FRS, FLSW (1937 - 2012) oedd un o aelodau sylfaenol grŵp Damcaniaeth Ffiseg Gronynnau Abertawe ym 1992, a chyn hynny roedd ganddo swyddi academaidd yng Ngholeg Imperial, CERN a Chaergrawnt. Llywiodd ei gyfraniadau arloesol ddatblygiad damcaniaeth maes cwantwm a damcaniaeth llinyn. Dechreuodd ei yrfa wyddonol gyda gwaith pwysig mewn damcaniaeth matrics S a arweiniodd at gyd-ysgrifennu'r testun diffiniol ar y pwnc dan y teitl ’The Analytic S-matrix" ynghyd ag Eden, Landhoff a Polkinghorne. Roedd gan ei waith ar y llinyn troelli, a arweiniodd at amcanestyniad GSO (Gliozzi-Scherk-Olive), rôl ganolog wrth wireddu uwchgymesuredd amser-gofod mewn damcaniaeth llinyn. Cyflwynodd yr Athro Olive, ynghyd â Peter Goddard ac Adrian Kent, adeiladwaith coset, sef un o'r canlyniadau pwysicaf mewn damcaniaeth maes cwantwm cydymffurfio dau-ddimensiwn, gan arwain yn y pen draw at ffyrdd o ymgorffori cymesuredd mesur amser-gofod mewn damcaniaeth llinyn. Cafodd mewnwelediad dwfn Goddard, Nuyts ac Olive ar nodweddion monopolau, a chynnig beiddgar Olive a Montonen ar ddeuoliaeth drydan-magnetig mewn damcaniaeth mesur nad yw’n Abelaidd, yr effaith fwyaf pellgyrhaeddol ar ddatblygu deuoldeb mewn damcaniaeth maes cwantwm. Mae hefyd wedi ysgogi chwyldro deuoldeb mewn damcaniaeth llinyn ac M-theori. Dyfarnwyd Medal Dirac y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ffiseg Ddamcaniaethol (ICTP) i David ym 1997 ar gyfer y cyfraniadau arloesol a phellgyrhaeddol hyn.
Yn 2019, sefydlwyd cyfres flynyddol o ddarlithoedd er cof am David a'i waith dan nawdd / mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu David yn Gymrawd Sefydlu'r Gymdeithas, ar ôl cael ei ethol yn 2010.
Cyflwynwyd Darlith David Olive gyntaf gan yr Athro Robbert Dijkgraaf, Cyfarwyddwr Athrofa Astudio Uwch, Princeton.