Cyfweliad meddyginiaeth warantedig 

Os na wnaethoch chi ddechrau ar gwrs Meddygaeth eleni ac yn cael eich hun yn ailystyried eich opsiynau, mae ein Llwybrau at Feddygaeth yn ddewis delfrydol i chi.

Mae pob un o’n 10 Gradd Llwybr yn cynnig y cyfle am gyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion, gan eich helpu i gyflawni eich uchelgais i astudio Meddygaeth a dod yn Feddyg. Maent yn ddelfrydol i chi os ydych:

Stori Hope: O Glirio i Feddygaeth i Raddedigion

Dilyn eich angerdd am wyddoniaeth a gofal iechyd

Mae pob un o'n 10 Gradd Llwybr yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael cyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth Mynediad i Raddedigion, wrth ganiatáu iddynt ddilyn ac archwilio angerdd am wyddoniaeth. Os ydych heb benderfynu ymgymryd â meddygaeth ond eto mae gennych angerdd am Wyddoniaeth a Gofal Iechyd yr ydych am ei ddilyn, yna gallai un o'n graddau Gwyddor Gofal Iechyd fod addas iawn i chi.

Golyga hyn bod ein Llwybrau at Feddygaeth yn gwneud yr opsiwn wrth gefn perffaith i lenwi'ch 5ed Dewis ar UCAS, gwnewch ddefnydd o UCAS ychwanegol i gadw'ch opsiynau ar agor wrth wneud cais am feddygaeth, neu lwybr amgen gwych i feddygaeth pe byddech chi'n cael eich hun yn clirio.

Cofrestrwch nawr - Diwrnodau Agored

Beth am ddarganfod yr hyn sydd gan ein graddau llwybr i'w gynnig:

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol
Students in lab

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn a chymhwysol o sut mae'r corff dynol yn gweithio, yr hyn sy'n digwydd pan aiff rhywbeth o'i le, sut rydym yn trin anhwylderau ar hyn o bryd a'r potensial ar gyfer therapiwteg newydd. Bydd ein graddau Llwybrau Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yn rhoi sylfaen i chi yn y gwyddorau sy'n ategu meddygaeth.

Ar gael drwy'r canlynol:

Biocemeg Feddygol Geneteg Feddygol Ffarmacoleg Feddygol Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol Llwybrau Clinigol a Gofal Iechyd eraill

Sut mae'r Rhaglen yn ei gweithio

Mae myfyrwyr sy'n dewis llwybr i feddygaeth yn elwa ar fodiwlau pwrpasol a arsylwadau iechyd neu gysylltiedig. Cânt eu paratoi'n arbenigol ar gyfer gwneud cais i'n cwrs Meddygaeth i Raddedigion ochr yn ochr â chyfweliad gwarantedig ar gyfer ein cwrs Meddygaeth i Raddedigion.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i raddedigion sydd ar ein Llwybrau israddedig penodol ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion, cyhyd a'u bod yn cyrraedd y gofynion mynediad pan yn gwneud cais, ac yn cwblhau'r llwybr israddedig yn llwyddiannus.

Myfyriwr gyda darlithyr
Myfywwyr gyda darlithwyr yn y labordy

Mae cwblhau'r Llwybr israddedig yn llwyddiannus yn golygu: 

  1. Marc cyfartalog cyffredinol o 60% yn y Flwyddyn Gyntaf i fod yn gymwys am y modiwlau Llwybr yn yr Ail Flwyddyn. "Doctors, Patients and the Goals of Medicine (PM254)"

  2. 60% yn y Modiwlau Llwybr – "Doctors, Patients and the Goals of Medicine (PM254)"

  3. Mae'n ofynnol wrth wneud cais fod gan fyfyrwyr sgôr GAMSAT dilys (neu MCAT os ydynt yn Fyfyrwyr rhyngwladol) neu eu bod yn disgwyl sgôr dilys

Bydd myfyrwyr sy'n cyrraedd y meini prawf mynediad yn gymwys am Gyfweliad Gwarantedig yn eu blwyddyn olaf, ond dim ond unwaith y caiff fyfyrwyr ddefnyddio'r Cyfweliad Gwarantedig, yn eu blwyddyn olaf o astudio.

Straeon A Chyngor Myfyriwr