
Gweithdai ysgrifennu creadigol rhyngweithiol Sgriblwyr Gŵyl y Gelli i barhau ym Mhrifysgol Abertawe
Bydd disgyblion Blwyddyn 7-10 o Ysgolion Uwchradd De Cymru yn elwa o gael mynediad at feirdd ac awduron o fri o ganlyniad i gyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol deinamig a rhyngweithiol a gynhelir ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli, a gynhelir gan Ŵyl y Gelli, yn parhau yn 2023 a 2024.
Bydd Sgriblwyr Cymraeg Gŵyl y Gelli yn cynnal gweithdy Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Tachwedd 2023 ac mae dau weithdy Saesneg ychwanegol yn cael eu cynllunio ar gyfer mis Chwefror 2024. Yn rhan o’r digwyddiadau gweithdy, bydd y disgyblion sy’n cymryd rhan hefyd yn cael cyfle i weithio gydag awduron a beirdd yn ogystal â rhyngweithio â staff a myfyrwyr y brifysgol a phrofi bywyd ar y campws.
Roedd gweithdai diweddar Sgriblwyr Gŵyl y Gelli a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys yr awdur Maz Evans, a gynhaliodd sesiwn ddyddiadur a oedd yn archwilio safbwyntiau. Edrychodd y bardd arobryn Matt Goodfellow ar ‘ysgrifennu gwrthryfelgar’ ffraeth, gan annog y disgyblion i ysgrifennu am eu profiadau eu hunain trwy farddoniaeth. Cynorthwyodd yr awdur ffuglen wyddonol, Femi Fadugba, y disgyblion i ysgrifennu eu stori fer ddychmygus eu hunain gan ddefnyddio thema dyfeisio, deallusrwydd artiffisial ac algorithmau, ac arweiniodd yr awdur Caroline O’Donoghue weithdy wedi’i seilio ar adrodd straeon, a ysbrydolwyd gan offer hudol hynafol fel cardiau tarot.
Dywedodd un disgybl Blwyddyn 7 o Ysgol Coedcae yn Llanelli:
“Fe hoffwn i gael gyrfa ym myd ffilmiau yn y dyfodol. Fe ges i fy ysbrydoli wrth ddysgu gan yr awduron a’r beirdd a wnaeth ein hannog ni i adael i’n dychymyg ddod yn fyw ar bapur. Roedden ni’n gallu gofyn cwestiynau ac wedi dysgu llawer ganddyn nhw. Fe fwynheuais i’r diwrnod yn fawr.”
Yr Athro Sian Rees, Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Prifysgol Abertawe:
“Mae digwyddiadau Sgriblwyr Gŵyl y Gelli ym Mhrifysgol Abertawe yn ffordd wych o ddod â phlant ysgol uwchradd i’n campws ac ennyn eu brwdfrydedd am y celfyddydau llenyddol. Maen nhw’n rhoi cyfle i archwilio a phrofi creadigrwydd ac atgyfnerthu rôl bwysig a goleuol y celfyddydau llenyddol mewn addysg ac yn ein cymdeithas a’n cymunedau ehangach.”
Gorffennodd Aine Venables, Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu Gŵyl y Gelli, drwy ddweud:
"Roedd y disgyblion yn gallu profi bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cyntaf i lawer ohonynt fod ar gampws. Mae’r profiadau hyn yn cyfuno i greu diwrnod ysbrydoledig iawn i’r disgyblion. Diolch i’r tîm cyfan ym Mhrifysgol Abertawe a Theatr Taliesin am wneud Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli yn brofiad mor gadarnhaol i bawb a oedd yn gysylltiedig. Edrychwn ymlaen at y gyfres nesaf o ddigwyddiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn."
Archwiliwch yr ystod o gyrsiau Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg israddedig ac ôl-raddedig a gynigir ym Mhrifysgol Abertawe.
Dysgwch fwy am waith Gŵyl y Gelli.