Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i grwydro'n campysau hardd, gallwch gwrdd â staff academaidd a chael blas ar fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein rhaglen Diwrnod Agored hyblyg a chyffrous yn rhoi digon o gyfle i chi weld ein cyfleusterau addysgu, dewisiadau llety, cyfleusterau chwaraeon a'r ystod o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae hefyd modd i chi gael cymorth ac arweiniad ar gyllid myfyrwyr a chefnogaeth ariannol.
Ydych chi eisiau holi am fywyd myfyrwyr? Siaradwch gydag un o'n llysgenhadon myfyrwyr a fydd o gwmpas drwy gydol y dydd i ateb eich holl gwestiynau. Holwch ni hefyd am fywyd myfyriwr Cymraeg ar y campws ac am y gefnogaeth a'r clybiau a chymdeithasau Cymraeg sydd ar gael i chi.
Darllenwch ein tudalen Cwestiynau Cyffredin Diwrnodau Agored i gael gwybod popeth am ein diwrnodau agored.